Ewch i’r prif gynnwys

Llwybrau gradd

Rydym ni wedi datblygu nifer o lwybrau i'ch helpu i astudio am radd israddedig yn y Brifysgol.

Caiff pob llwybr ei addysgu'n rhan amser, fin nos ac ar benwythnosau mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Gan amlaf, ni fydd angen i chi fod eisoes wedi ennill cymwysterau, a bydd digon o gymorth i ddatblygu eich sgiliau astudio.

Mae ein rhaglen llwybrau'n ddewis amgen i gymwysterau Safon Uwch a mynediad gan ei bod yn cael ei haddysgu a'i hasesu mewn ffyrdd tebyg i gyrsiau israddedig blwyddyn gyntaf. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael profiad ymarferol o astudio ar lefel gradd mewn amgylchedd addysg uwch bywiog.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt efallai wedi cael addysg ffurfiol ers sawl blwyddyn, a does dim angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ar nifer o'n llwybrau.

Byddwn ni'n eich cynorthwyo i baratoi a chyflwyno eich cais gradd, ac yn eich helpu i baratoi at eich cyfweliad gradd pan ddaw'r amser.

Llwybr at radd mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Dysgwch am wleidyddiaeth ddomestig a byd-eang, ynghyd â'r materion pwysig sy'n wynebu ein byd heddiw yn y llwybr poblogaidd hwn at radd israddedig.

Llwybr at radd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth

Dysgwch am y straeon rydym ni'n eu defnyddio i wneud synnwyr o fywyd a chael cyfle i symud ymlaen i astudio gradd israddedig.

Llwybr at radd mewn hanes, archaeoleg neu grefydd

Gwireddwch eich uchelgais i astudio hanes, hen hanes, archaeoleg neu grefydd ar lefel gradd.

Llwybr at radd mewn Cyfieithu

Gall myfyrwyr sy'n cwblhau'r llwybr hwn yn llwyddiannus ac yna sy’n pasio'r cyfweliad gradd dilynol fynd i flwyddyn gyntaf o astudiaeth israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd gyda hanner credydau'r flwyddyn honno wedi'u cwblhau.

Llwybr at radd mewn Ieithoedd Modern: Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg

Cewch astudio o fewn amserlen, fframwaith ac amgylchedd hyblyg, gan weithio at ddechrau ar radd israddedig.

Llwybr at radd yn y Gwyddorau Cymdeithasol

Cofrestrwch ar gyrsiau sy'n rhan o'r llwybr hwn, ac os byddwch chi'n llwyddiannus, cewch drosglwyddo i radd israddedig lawn.

Llwybr at radd mewn Rheoli Busnes, Marchnata a Chyfrifeg

Mae ein llwybr yn ffordd boblogaidd i mewn i astudio yn Ysgol Busnes Caerdydd sy'n cael ei chydnabod yn eang fel un o’r ysgolion busnes a rheoli mwyaf blaenllaw yn y DU.

Llwybr at radd mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant

Os ydych chi wedi meddwl erioed am astudio newyddiaduraeth, y cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol, bydd y llwybr hwn yn agor ac yn ymdrin â meysydd pwnc hynod ddifyr yn ymwneud â'r cyfryngau o'n cwmpas.

Llwybr at radd mewn gofal iechyd

Ar ôl astudio rhan amser bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu gwneud cais i astudio gradd israddedig mewn nifer o feysydd gofal iechyd.

Llwybr at radd mewn Ffarmacoleg Feddygol

Mae’r llwybr yn ddelfrydol i fyfyrwyr sydd eisiau dilyn gyrfa mewn ymchwil biofeddygol.

Llwybr at radd mewn Optometreg

Lluniwyd ein Llwybr rhan-amser at radd mewn Optometreg ar gyfer oedolion sydd eisiau dychwelyd i fyd addysg er mwyn gwneud cais i astudio gradd.

Llwybr i'r Gyfraith

Mae ein Llwybr rhan-amser i'r Gyfraith wedi'i gynllunio ar gyfer oedolion sydd am ddychwelyd i addysg.

Llwybr at radd mewn Ieithoedd Modern: Tsieinëeg, Almaeneg, Eidaleg, Siapanaeg, Portiwgaleg (dechreuwyr)

Our Pathway to a degree in Modern Languages is designed for adults returning to education and has the potential to contribute directly to a highly marketable degree.

Llwybrau at radd mewn Cerddoriaeth

Mae astudio ein Llwybr i Gerddoriaeth yn eich paratoi i wneud cais i symud ymlaen at radd israddedig yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol.

Llwybr at Radd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol

Mae'r Llwybr at radd mewn Gwaith Cymdeithasol (MA) yn berffaith ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion ac sydd â diddordeb mewn dychwelyd i fyd addysg.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod mwy am y llwybr hwn cysylltwch â:

Llwybrau at radd