Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Ffilm Fer Uwch

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae ffilm fer yn un o'r dulliau adrodd stori mwyaf deinamig ac argyhoeddiadol mewn diwylliant modern.

Ond sut mae hoelio sylw drwy ein sgriptiau ffilm fer? Beth sydd ei angen i droi ein sgriptiau ffilm fer yn ffilmiau go iawn?

Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu sgriptiau ar lefel uwch. Gan adeiladu ar eich cronfeydd gwybodaeth o gyrsiau ysgrifennu sgriptiau ac ysgrifennu creadigol blaenorol, byddwch yn ystyried sut i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu mewn ffordd sy'n gwella eich datblygiad proffesiynol yn ogystal â chyfleoedd i gael gwaith wedi'i gynhyrchu. Mae hyn yn cynnwys deall sut i wneud cais am gynlluniau ariannu a sut i fynd ati i gael cwmni cynhyrchu i ddewis eich sgript.

Sylwch fod gan y modiwl hwn ofynion dysgu blaenorol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp bach.

Mae hwn yn gwrs ysgrifennu uwch ar gyfer y sgrin. Felly, rhaid eich bod wedi cwblhau o leiaf un modiwl ysgrifennu sgriptiau Lefel 4 yn yr Is-adran Dysgu Gydol Oes neu ddau fodiwl ysgrifennu creadigol cyffredinol Lefel 4 yn llwyddiannus cyn cofrestru. Bydd dysgu blaenorol arall gan ddarparwyr eraill yn cael ei ystyried fesul achos. I gael cyngor am ba mor addas ydych chi, cysylltwch â'r Darlithydd Cydlynu ar gyfer y Dyniaethau, Dr Michelle Deininger DeiningerMJ@caerdydd.ac.uk

Maes Llafur

Mae’r pynciau’n debygol o gynnwys:

  • Dadansoddi Sgript Ffilm Fer
  • Strwythur Uwch
  • Datblygu Cymeriad Uwch
  • Deialog Uwch
  • Plotio Uwch
  • Ymgorffori Themâu Pwerus
  • Drafftio a Golygu
  • Cynhyrchu Gwaith

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd rhaid i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.

Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg.

Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.

Byddwch yn cynhyrchu sgript 13-15 tudalen ar gyfer y sgrin ynghyd â'r dogfennau allweddol sydd eu hangen i baratoi'ch sgript ar gyfer ei gynhyrchu – Llinell Log, Crynodeb a Thriniaeth. Byddwch yn cyflwyno drafftiau cynnar ac yn dangos tystiolaeth o olygu.

Byddwch hefyd yn cyflwyno Myfyrdod Beirniadol (tua 300 gair) lle rydych chi'n dadansoddi eich dealltwriaeth o ysgrifennu dramatig a'ch cynnydd fel awdur. Yn wahanol i’n cyrsiau rhagarweiniol, mae'r cwrs hwn wedi'i farcio ar sail canran.

Deunydd darllen awgrymedig

Darllen Hanfodol:

Anogir myfyrwyr i ddarllen a dadansoddi ystod eang o sgriptiau ffilm.

Deunydd Darllen Ychwanegol a Ddewiswyd

  • The Art & Science Of Screenwriting gan Philip Parker
  • Screenplay gan Sid Field
  • Story gan Robert McKee

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.