Therapi Derbyn ac Ymrwymo II
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT) II yn datblygu nifer o syniadau o’r cwrs ACT cyntaf.
Y tro hwn, byddwn yn tynnu ar drosiadau i archwilio syniadau megis dewrder a hyder, ofn a meiddio, i'n helpu i ddeall beth sy’n ein ysgogi i fyw’r bywyd yr ydym am ei fyw.
Mae'r cwrs yn agored i bawb sydd wedi cwblhau ACT I.
Dysgu ac addysgu
Addysgir y cwrs drwy gymysgedd o:
- darlithoedd
- myfyrwyr yn myfyrio
- gweithio mewn parau neu grwpiau bach i gwblhau taflenni gwaith
Gwaith cwrs ac asesu
Deunydd darllen awgrymedig
- Dr Russ Harris: The Happiness Trap
- Dr Russ Harris: The Confidence Gap
Bydd deunydd darllen pellach yn cael ei awgrymu drwy gydol y cwrs.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.