Ewch i’r prif gynnwys

Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus - Cyfiawnder Troseddol

Hyd 19 o gyfarfodydd wythnosol
Tiwtor Zora Jackman
Côd y cwrs IAT24A5293A
Ffi £548
Ffi ratach £438 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Cynlluniwyd y cwrs hwn i helpu myfyrwyr dwyieithog i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol i weithio fel cyfieithwyr ar y pryd gwasanaeth cyhoeddus mewn lleoliadau Cyfiawnder Troseddol.

Mae'n cynnig arweiniad ar baratoi ar gyfer arholiad Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI) a gynhelir gan y Sefydliad Siartredig Ieithyddion ond mae croeso hefyd i fyfyrwyr nad ydynt yn bwriadu sefyll yr arholiadau.

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr dwyieithog sydd wedi llwyddo i gwblhau’r modiwl "Ymddygiad Proffesiynol mewn Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus" neu gyfwerth ac sy’n ystyried neu wedi cofrestru i sefyll yr arholiad DPSI yn rhan o lwybr y Gyfraith

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr dwyieithog sydd wedi llwyddo i gwblhau’r modiwl "Ymddygiad Proffesiynol mewn Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus" neu gyfwerth ac sy’n ystyried neu wedi cofrestru i sefyll yr arholiad DPSI yn rhan o lwybr y Gyfraith neu’r arholiad DPI.

Dylai lefel eu Saesneg a’u hiaith arall olygu eu bod yn gallu ysgrifennu testun 250 o eiriau heb unrhyw gamgymeriadau gramadegol neu sillafu, a deall erthyglau papur newydd ar bynciau cyfreithiol. Dylai myfyrwyr allu cael mynediad at gyfleusterau TG gan fod y cwrs yn dibynnu ar ddefnyddio system e-bost a Rhith-amgylchedd Dysgu Prifysgol Caerdydd (sef Dysgu Canolog) i gael cyhoeddiadau gan y tiwtor a mynediad at wybodaeth a deunyddiau cwrs.

Cwrs arbenigol yw hwn a gynlluniwyd i ddatblygu ymhellach ac ymdrin yn fanylach â’r pynciau a addysgwyd yn y modiwl "Ymddygiad Proffesiynol mewn Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus", ac argymhellwn yn gryf fod myfyrwyr yn cwblhau’r modiwl hwnnw cyn cofrestru ar y modiwl hwn. Dylent fod yn, yr NRPSI a'r arholiad DPSI.

Dysgu ac addysgu

  • Bydd myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo i gymhwyso prif egwyddorion ymddygiad proffesiynol ar gyfer Cyfieithwyr ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus i weithio mewn lleoliadau Cyfiawnder Troseddol, gan gyfeirio at y Model Diduedd ar gyfer Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus mewn amrywiol sefyllfaoedd a lleoliadau.
  • Bydd y sgiliau y mae'n ofynnol i gyfieithydd ar y pryd Gwasanaeth Cyhoeddus feddu arnynt yn cael eu dangos a'u hymarfer.
  • Bydd myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo i ymchwilio i derminoleg, datblygu geirfa o dermau arbenigol sy’n ehangu’n barhaus ac ymarfer sgiliau aralleirio.
  • Bydd materion ymarferol yn ymwneud â gweithio fel cyfieithydd ar y pryd gwasanaeth cyhoeddus mewn lleoliadau Cyfiawnder Troseddol yn cael eu hamlinellu a’u trafod.

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo i ddefnyddio Dysgu Canolog er mwyn ymgymryd â gwaith darllen ac ymchwil perthnasol, ac i ymarfer tasgau llafar ac ysgrifenedig rhwng gwersi.

Disgwylir iddynt dreulio tua phedair awr yn hunan-astudio am bob awr yn y dosbarth. Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i derminoleg a fydd yn ffurfio rhan o'r profion ysgrifenedig ac a ddefnyddir mewn gwaith ymarferol fel cyfieithiadau golwg.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol ond efallai y byddwch yn cael profion dosbarth.

Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur cwrs neu lunio portffolio. Mae ein hasesiadau’n hyblyg i weddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Ar gyfer y cwrs hwn, mae’r asesu’n cynnwys profion ysgrifenedig byr drwy gydol y cwrs a gwaith llafar dwyieithog tuag at ddiwedd y cwrs.

I ddyfarnu credydau, mae angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u hennill neu eu gwella. Mae’n rhaid i rywfaint o hyn fod ar ffurf y gellir ei dangos i arholwyr allanol fel y gallwn fod yn hollol siŵr bod safonau wedi’u bodloni ar draws yr holl gyrsiau a phynciau.

Y peth pwysicaf am asesu yw y dylai wella’r hyn rydych chi’n ei ddysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder ac rydym yn ymdrechu'n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

    • Tudalennau ac adnoddau sy'n gysylltiedig â’r Diploma Cyfieithu ar y pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (DPSI) a’r cylchgrawn The Linguist. Ceir y ddau o wefan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion.
    • Gwefan y Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu (WITS) (www.wits.uk.com) fel y bo’n berthnasol i gyfleoedd cyflogaeth lleol.
    • Tudalen hafan a newyddion gwefan y Gofrestr Genedlaethol o Gyfieithwyr ar y Pryd Gwasanaeth Cyhoeddus (NRPSI) (http://www.nrpsi.org.uk/).
    • Erthyglau o’r cyfryngau ar bynciau yn ymwneud â Chyfiawnder Troseddol.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.