Ewch i’r prif gynnwys

Gwella eich Portiwgaleg Cam B

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddefnyddio amrywiaeth ehangach ond cyfyngedig o sgiliau iaith llafar, clywedol ac ysgrifenedig.

Er bod y pwyslais ar siarad, byddwch hefyd yn dysgu rhagor o strwythurau gramadegol a phatrymau brawddegau sy'n hanfodol ar gyfer gwneud cynnydd pellach mewn Portiwgaleg.

Yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp; gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; darllen testunau byr; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg. Dyma’r pynciau fydd o dan sylw:

  • Gweithredoedd presennol a blaenorol
  • Bwytai (adolygu a rhai newydd)
  • Symud o gwmpas; Dillad a Siopa (adolygu a rhai newydd)
  • Nodweddion (cyffredinol)
  • Mynegi teimladau (cyflwyniad)
  • Trafodion banc a masnachol (cyflwyniad)
  • Teithio (cyflwyniad)
  • Mesurau pwysau
  • Trafnidiaeth / Swyddfa’r Post
  • Y corff dynol (cyflwyniad)

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, gan gynnwys y canlynol:

  • Amser presennol y ferf (berfau rheolaidd)
  • Amser presennol y ferf (rhai berfau afreolaidd)
  • Amser gorffennol y ferf (berfau rheolaidd)
  • Amser gorffennol y ferf (rhai berfau afreolaidd)
  • Rhagenwau (myfyriol, adroddiadol)
  • Ansoddeiriau, Adferfau (newidynnau/annewidynnau)
  • Ymadroddion / mynegiadau idiomatig
  • Cysyllteiriau (cyflwyniad a mynegiadau)
  • Arddodiaid, Gorchmynnol (berfau gorchymyn)
  • Berfau cynorthwyol

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth sylfaenol o Bortiwgaleg, ac sy'n dymuno gwella eu sgiliau cyfathrebu ymhellach o ran ffurfiau llafar, clywedol ac ysgrifenedig.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a’r myfyriwr. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.