Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno Lladin

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

A fu erioed arnoch awydd darllen gweithiau awduron Rhufeinig a chanoloesol yn eu hiaith wreiddiol?

Neu oeddech chi eisiau deall cyfieithiad Lladin o glasur modern, fel Ursus Nomine Paddington?

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i gymryd y camau cyntaf ar y daith i ddarllen a chyfieithu Lladin Hynafol.

Wedi'i fwriadu ar gyfer dechreuwyr pur, bydd y cwrs yn eich cyflwyno i ramadeg a geirfa Lladin, gan ddarparu'r sylfaen ar gyfer astudio'r iaith fel y cafodd ei defnyddio gan awduron fel Cicero ac Iwl Cesar a chan genedlaethau o awduron drwy gydol a thu hwnt i'r Oesoedd Canol.

Byddwch yn dysgu darllen a chyfieithu brawddegau Lladin syml, gan adeiladu sgiliau i alluogi astudio Lladin ymhellach a fydd yn darparu'r blociau adeiladu ar gyfer y nod yn y pen draw o ddarllen y testunau hynafol yn eu hiaith wreiddiol.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno trwy wyth sesiwn 2 awr ar-lein, a 4 awr o gynnwys wedi'i recordio’n anghydamserol.

Bydd sesiynau ar-lein yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau tiwtoriaid, trafodaeth dosbarth a gwaith grŵp ar elfennau penodol y modiwl.

Bydd trafodaethau a'r darlithoedd anghydamserol hyn yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ar Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur:

  • Astudio Lladin: technegau a dulliau gweithredu
  • Siarad Lladin: ynganiad
  • Cyflwyniad i iaith a gramadeg Lladin
    • Geiriau a sut maent yn newid (ffurfdroadau, cyflyrau, rhediadau)
    • Adeiladu brawddegau: o enwau i ferfau (a'u lleisiau, eu hamserau, a'u moddau)
    • Ychwanegu at frawddegau: arddodiaid, gronynnau, rhagenwau, ansoddeiriau
  • Nodweddion eraill Lladin: rhifau
  • Darllen a chyfieithu testunau Lladin sylfaenol

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd y modiwl yn cael ei asesu trwy farc cyfranogiad sy'n adlewyrchu ymgysylltiad â thasgau dosbarth ar draws y modiwl, a thrwy bortffolio o dasgau gwaith cartref a gwblheir ar draws y modiwl.

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddwy elfen o asesu.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Peter V. Jones and Keith C. Sidwell, Reading Latin: Text and Vocabulary, 2nd edition (Cambridge: Cambridge University Press, 2016)
  • Peter V. Jones and Keith C. Sidwell, Reading Latin: Grammar and Exercises, 2nd edition (Cambridge: Cambridge University Press, 2016)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.