Ewch i’r prif gynnwys

Gwella eich Arabeg

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Arabeg yn rhan-amser am un flwyddyn, sydd am wella eu sgiliau iaith ymhellach ac ar yr un pryd am gael cipolwg ar fywyd a diwylliant Arabaidd.

Er bod y pwyslais ar siarad, byddwch hefyd yn dysgu rhagor o strwythurau gramadegol syml a phatrymau brawddegau.

Bydd y gramadeg/pynciau canlynol o dan sylw:

  • yr wyddor a'i ffurfiau gwahanol o ran ysgrifennu a seinyddiaeth
  • gramadeg sylfaenol a geirfa Arabeg safonol
  • proffil personol
  • dyddiau'r wythnos a misoedd y flwyddyn
  • cnydau
  • anifeiliaid
  • dillad a gwisg
  • nodweddion trefi a chyfarwyddiadau'r ffordd
  • hobïau
  • yn y maes awyr
  • yn eich tŷ
  • gwestai
  • enwau gwledydd, dinasoedd pennaf a gwrthrychau

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â dealltwriaeth sylfaenol o Arabeg ac sydd am allu gwella eu sgiliau sgwrsio sylfaenol wrth deithio i wledydd lle siaredir Arabeg.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc. Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr yn waith cartref.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.