Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol Gerddi

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r unfed ganrif ar hugain yn profi i fod yn newid mawr yn y ffordd yr ydym yn creu ac yn cynnal ein gerddi.

Mae newid yn yr hinsawdd, planhigion newydd a datblygu heriau dylunio yn cyfuno i greu deialog newydd sbon ynghylch yr ardd gyfoes.

Rydym yn trafod y llu o erddi, dylunwyr a dulliau newydd ac arloesol, gwledig a threfol, bach a mawr.

Gan symud i ffwrdd o erddi taclus yr oes flaenorol, byddwn yn trafod y chwyldro o fewn plannu, esthetig mwy eco-ymwybodol ac yn trafod dylunwyr blaenllaw yr ymagwedd hon.

Y newid byd-eang tuag at ddull mwy cynaliadwy, sydd yn naturiol ac yn wyllt fel ei gilydd.

Trafodir am erddi a gwneuthurwyr gerddi o safbwynt rhyngwladol, gan gynnwys gerddi’r rheiny o America, Awstralia, Seland Newydd, Japan, Gwlad Thai, Ewrop, Prydain a'r Dwyrain Pell.

Byddwn yn trafod gerddi preifat a chyhoeddus sy'n rhannu nod cyffredin o arddull a soffistigeiddrwydd wrth ystyried eu hamodau hinsoddol amrywiol a'u defnydd o'r adnoddau a'r deunyddiau sydd ar gael.

Bydd y dulliau rhyngwladol o weithio gyda natur ac nid yn ei herbyn yn egwyddor greiddiol i’r holl gerddi a drafodir.

Bydd dewis planhigion, arwyddocâd coed, Xeriscaping, glaw a defnydd dŵr, a'u hystyriaeth tuag at bryfed peillio, adar a phryfed eraill i gyd yn cael eu hystyried wrth greu gerddi sydd, i raddau helaeth, yn fodern eu harddull.

Drwy gydol y cwrs, bydd egwyddorion sylfaenol garddwriaeth organig yn cael eu hystyried ac mae'r pwyslais bob amser ar ddull cyfoes ystyriol wedi'i guradu, gan roi sylw arbennig i ddulliau bridio planhigion a phlanhigion newydd.

Bydd gerddi a thirweddau trefol a gwledig yn cael eu hystyried, o goedwig yn Japan i ardd breifat yn Iwerddon, o blannu peithiau, i fanylder trefol o bennau tai ac iardiau dinas mewn llawer o'n dinasoedd mawr.

Dysgu ac addysgu

Bydd darlithoedd, astudiaethau achos a thrafodaethau grŵp.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Wild: The Naturalistic Garden,  Noel Kingsbury ,  Phaidon Press (17 Feb. 2022).
  • Gardens Under Big Skies: Reimagining Outdoor Space, the Dutch Way, Noel Kingsbury, Filbert Press (11 Nov. 2021).
  • Planting the Natural Garden, Piet Oudolf, Timber Press; Illustrated edition (3 Oct. 2019).
  • Tom Stuart-Smith: Drawn from the Land , Tim Richardson, Thames and Hudson Ltd; 1st edition (18 May 2021).
  • The Thoughtful Gardener: An Intelligent Approach to Garden Design, Jinny Blom, Jacqui Small LLP; Illustrated edition (16 Mar. 2017).
  • Naturalistic Planting Design The Essential Guide: How to Design High-Impact, Low-Input Gardens, Nigel Dunnett, Filbert Press (21 Mar. 2019).
  • Planting in a Post-Wild World: Designing Plant Communities for Resilient Landscapes, Thomas Rainer, Timber Press; Illustrated edition (13 Oct. 2015).
  • The View from Federal Twist: A New Way of Thinking About Gardens, Nature and Ourselves, [James Golden, Filbert Press (28 Oct. 2021).
  • A Beautiful Obsession: Jimi Blake's World of Plants at Hunting Brook Gardens , Jimi Blake, Filbert Press (2 Sept. 2019).
  • Home Ground: Sanctuary in the City, Dan Pearson, Conran Octopus; 1st edition (7 Mar. 2011).
  • The Naturally Beautiful Garden: Contemporary Designs to Please the Eye and Support Nature, Kathryn Bradley-Hole, Rizzoli International Publications; 1st edition (13 April 2021).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.