Ewch i’r prif gynnwys

Sgriptio Drama Deledu

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunydd ar y sgrîn ac ymarferion yn y dosbarth, mae'r cwrs yn datgelu ac yn torri i lawr gofynion cymhleth ysgrifennu sgriptiau drwy arddangosiadau ymarferol o'i gydrannau ac egwyddorion allweddol.

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i greu, cynllunio ac ysgrifennu sgript yn unol â thechnegau sefydledig a meini prawf proffesiynol. Mae'n rhaid cofrestru ymlaen llaw oherwydd mae lleoedd yn brin.

Dysgu ac addysgu

Mae hwn yn gwrs 10 credyd, felly bydd cyfarfodydd dwy awr unwaith yr wythnos (20 awr o gyswllt i gyd) fydd yn cynnwys trafodaethau, ymarferion (opsiynol), darlithoedd ynghylch crefft a detholion o DVD. Cewch hefyd daflenni fel darllen cefndirol ar gyfer y cwrs, ynghyd â sgript a samplau golygfeydd unigol.

Y nod yw sicrhau bod y dosbarthiadau’n bleserus ac yn ysgogol i bawb. Disgwylir i chi ysgrifennu yn eich amser preifat eich hun, gydag arweiniad eich tiwtor, wrth ymgyfarwyddo yr un pryd â chysyniadau sylfaenol sgriptio.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fydd unrhyw arholiadau ffurfiol. Fe'ch anogir i ysgrifennu sgript byr i'w gwblhau erbyn diwedd y cwrs, sy'n dangos eich dealltwriaeth o hanfodion sgriptio.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau yn hyblyg ac wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Cewch hyd i'r rhan fwyaf o adnoddau y bydd eich tiwtor eich cyfeirio atynt ar-lein.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.