Ewch i’r prif gynnwys

Daeareg Maes yn Ne Swydd Amwythig (Rhan 2)

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Diben y modiwl cynhwysfawr hwn sy’n para am bedwar diwrnod dros ddau benwythnos yn olynol yw ymdrochi dysgwyr yn nhirluniau daearegol amrywiol De Swydd Amwythig, sy'n rhan o fryniau gororau Cymru.

Bydd myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth o ffurfiannau, o greigiau folcanig a gwaddodol hynafol i dirffurfiau amrywiol wedi'u siapio gan actifedd tectonig ac erydiad ar hyd yr oesoedd.

Bydd y cwrs ymarferol hwn, sy'n cynnwys gwaith maes mewn lleoliadau enwog megis Brown Clee Hill a'r Stiperstones, yn arfogi dysgwyr â’r sgiliau i allu cynnal asesiadau daearegol a gwerthfawrogi’r hanes daearegol cymhleth sy'n nodweddu’r rhanbarth hwn. Nid oes angen mynd i’r modiwl Rhan 1.

Dysgu ac addysgu

Bydd y daith maes ym para am gyfnod o 4 diwrnod yn olynol, a bydd pwyslais ar arsylwi ymarferol a chydnabod nodweddion arwyddocaol. 20 o oriau cyswllt.

Bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion gwyddoniaeth ddaearegol, a daeareg (gan gynnwys tirffurfiau) y maes astudio yn gyntaf, drwy wneud darllen cefndirol o’r daflen wybodaeth a anfonir atynt cyn y cwrs (gan gynnwys testun, mapiau a brasluniau anodedig disgrifiadol); bydd llawer o’r agweddau a ddisgrifir yn y daflen wybodaeth wedyn yn cael eu dangos iddyn nhw yn y maes – a bydd y daflen wybodaeth ar gael iddyn nhw bob amser i gyfeirio ati.

Bydd sgiliau maes yn cael eu haddysgu yn ystod y cwrs, gan gynnwys sut i arsylwi a chofnodi, sut i samplu sbesimenau cyfeirio da, a bod yn ymwybodol o agweddau allweddol o ran cadwraeth ddaearegol a diogelwch, a gweithredu arnynt.

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd papur cwestiwn yn cael ei osod ar ddiwedd y cwrs. Caiff y papur hwn ei gynllunio er mwyn iddo fod yn rhwydd i’w gwblhau, ond hefyd bydd yn adlewyrchu ystod y pwnc, yn rhoi prawf ar ddealltwriaeth y myfyriwr o'r daflen wybodaeth cyn y cwrs, yn ogystal â'r hyn a ddisgrifiwyd iddyn nhw yn ystod y daith maes.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Whitten with Brooks. 1974. A Dictionary of Geology. Penguin.
  • Kearey. 1996. The New Penguin Dictionary of Geology. Penguin.
  • Mondadori. 1977. The Macdonald Encyclopaedia of Rocks and Minerals. Macdonald.
  • Geological Museum. 1978. Britain before Man. HMSO.
  • British Museum (Natural History). 1969. British Palaeozoic Fossils. London.
  • British Museum (Natural History). 1972. British Mesozoic Fossils. London.
  • Fitter & Ray. The Seashore. Collins.
  • Hunter & Easterbrook. 2004. The Geological History of the British Isles. The Open University.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.