Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi Digidol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Pa fath o gynnwys sy’n gwneud blog llwyddiannus?

  • Sut y gellir defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel llwyfan ysgrifennu effeithiol?
  • A yw hunan-gyhoeddi yn gallu arwain at lwyddiant?
  • Sut mae ffansîns yn dylanwadu ar fforymau ysgrifennu ar-lein? Hoffech chi roi cynnig ar ysgrifennu cynnwys bythol ddiddorol?

P’un a oes diddordeb gennych mewn crefftio eich ysgrifennu ar gyfer y we, codi eich proffil ar-lein neu ddim ond deall mwy am lwyfannau cyhoeddi digidol, dyma’r cwrs i chi!

Dysgu ac addysgu

Bydd y cwrs yn seiliedig ar weithdai rhyngweithiol, a fydd yn cynnwys adborth rheolaidd gan gyfoedion a thiwtoriaid o fewn amgylchedd cefnogol a chyfeillgar. Gall hyn gynnwys darlithoedd byr, trafodaethau a thasgau ymarferol. Gallai'r sesiynau gynnwys:

  • cyhoeddi digidol: cyd-destunau, llwyfannau a chyfeiriadau’r dyfodol
  • blogiau a’r grefft o flogio
  • y cyfryngau cymdeithasol fel llwyfan ysgrifennu effeithiol
  • llywio’r byd o hunan-gyhoeddi: heriau, llwyddiannau a pheryglon posibl
  • pŵer y ffansîn
  • cymunedau ar-lein
  • rheoli eich presenoldeb ar-lein
  • ysgrifennu cynnwys bythol ddiddorol

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd myfyrwyr yn cwblhau portffolio cyhoeddi digidol. Bydd y portffolio yn cynnwys ysgrifennu ar gyfer cyd-destunau digidol, hyd at tua 1500 o eiriau. Ochr yn ochr â hyn, bydd myfyrwyr yn ysgrifennu dyddlyfr myfyriol a fydd yn sylfaen i sylwebaeth feirniadol ar eu gwaith a chynnydd eu hunain.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Thumim, Nancy (2012) Self-Representation and Digital Culture. Basingstoke: Palgrave Macmillan
  • Jones, R.H. and Hafner C.H. (2012) Understanding Digital Literacies: A practical introduction. London: Routledge
  • Miller, V (2011) Understanding Digital Culture. London: SAGE
  • Papacharissi, Z. (2011) A Networked Self: Identity, community and culture on social network sites. London: Routledge

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.