Ewch i’r prif gynnwys

Sbaeneg Uwchraddol Is – Cam E

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich iaith lafar, glywedol ac ysgrifenedig ymhellach, er mwyn i chi allu mynegi eich hun yn hyderus wrth drafod y pynciau mwyaf cyffredinol, heb i chi orfod chwilio’n amlwg am eiriau, gan ddefnyddio rhai ffurfiau cymhleth ar frawddegau i wneud hynny.

Byddwch yn atgyfnerthu ac yn ehangu eich dealltwriaeth o strwythur yr iaith a diwylliant gwledydd lle siaredir Sbaeneg.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar siarad, ac, yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i ymarfer eich sgiliau siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp; byddwch yn gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; byddwch yn darllen testunau papurau newydd; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg. Bydd y cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau a fydd yn cael eu haddasu i gyd-fynd â diddordebau’r myfyrwyr.

Mae ystod eang o bynciau gan gynnwys dinasoedd Sbaen; pobl Sbaen a'u nodweddion; dathliadau Sbaen; traddodiadau Sbaen; addysg a mewnfudo. Gramadeg: bydd myfyrwyr yn adolygu’r prif bwyntiau gramadegol, yn ôl y gofyn, gyda phwyslais ar ymarfer bannodau ymhellach; Ser/Estar; y Gorffennol ac Amherffaith; arddodiaid; y modd dibynnol presennol ac amherffaith. Defnyddir deunydd dilys ar ffurf taflenni i'w dosbarthu.

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi bod yn dysgu Sbaeneg yn rhan-amser ers pedair blynedd, neu os ydych wedi cwblhau cwrs Sbaeneg Safon Uwch yn ddiweddar.

Gall astudio’r cwrs hwn gyfrannu at y llwybr at radd mewn cyfieithu a’r llwybr at radd mewn ieithoedd modern.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Gwaith cwrs ac asesu

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.