Ewch i’r prif gynnwys

Barddoniaeth Eidaleg yr 21ain Ganrif mewn 40 cerdd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae barddoniaeth gyfoes yr Eidal yn cynnig ystod anhygoel o arddulliau, lleisiau, ymagweddau, ffyrdd o edrych ar y byd a ffyrdd o'i gynrychioli.

Mae'r cwrs hwn yn trin a thrafod lluosogrwydd y lleisiau hyn gyda detholiad o'r beirdd mwyaf cynrychioliadol o wahanol gefndiroedd.

Byddwn yn darllen y cerddi hyn sy'n edrych ar bynciau fel cymdeithas, hunaniaeth, rhyw, gwleidyddiaeth, mudo a hil yn yr Eidal, yn ogystal â gwneud sylwadau arnynt a’u rhoi mewn cyd-destun. Byddwn hefyd yn myfyrio ar sut i ymdrin â chyfieithu llenyddol drwy ddulliau ymarferol.

Drwy roi lle i chi ddarllen a chyfieithu, nod y modiwl yw gwella eich sgiliau cyfieithu, magu hyder, a'ch helpu i ddeall y prif heriau sy’n gysylltiedig â chyfieithu barddoniaeth.

Dyma’r beirdd y byddwn yn eu trafod:

  • Antonella Anedda
  • Franco Buffoni
  • Dome Bulfaro
  • Maria Grazia Calandrone
  • Chandra Livia Candiani
  • Milo De Angelis
  • Matteo Fantuzzi
  • Fabio Franzin
  • Marco Giovenale
  • Mariangela Gualtieri
  • Andrea Inglese
  • Rosaria Lo Russo
  • Valerio Magrelli
  • Guido Mazzoni
  • Umberto Piersanti
  • Laura Pugno
  • Shirin Ramzanali Fazel
  • Ida Travi
  • Luigi Trucillo
  • Patrizia Valduga
  • Giovanna Cristina Vivinetto
  • Lello Voce

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Dylai fod gan fyfyrwyr rywfaint o wybodaeth o Eidaleg.

Gwaith cwrs ac asesu

Portffolio gwaith cwrs a chymryd rhan yn y dosbarth Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Luca Paci, ( editor), Tempo: Excursions in 21st Century Italian Poetry, Parthian, 2022.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.