Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg ar gyfer Ôl-ddechreuwyr - Cam A + (Dwywaith yr wythnos)

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nod y cwrs hwn yw gwella eich strwythurau gramadegol sylfaenol mewn Almaeneg ymhellach, a hynny er mwyn i chi allu cyfathrebu ar lefel syml mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a sefyllfaoedd sy’n hanfodol ar gyfer goroesi mewn gwledydd lle siaredir Almaeneg.

Er bod y pwyslais ar siarad, byddwch hefyd yn dysgu rhagor o strwythurau gramadegol a phatrymau brawddegau sy'n hanfodol ar gyfer gwneud cynnydd pellach mewn Almaeneg.

Dyma’r pynciau fydd o dan sylw:

  • gwyliau
  • gwneud trefniadau teithio a archebu ystafell mewn gwesty
  • siarad am eich bywyd, gwaith, addysg a phrofiad
  • gweithgareddau hamdden
  • siopa
  • arian.

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, gan gynnwys y canlynol: adolygu pellach o amser perffaith y ferf, terfyniadau ansoddeiriau, gwrthrychau uniongyrchol ac anuniongyrchol, berfau moddol, is-gymalau: "wenn" "dass" "weil" "obwohl", arddodiaid (Derbyniol/Gwrthrychol); berfau gwahanadwy, berfau atblygol; genidol.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Almaeneg am flwyddyn yn rhan-amser neu â enillodd TGAU gryn amser yn ôl, ac sydd am wella eu sgiliau iaith cyfredol.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Spektrum A1, Chapters 7-12

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.