Ewch i’r prif gynnwys

Gwlad Groeg Glasurol: Celf, Bywyd, Marwolaeth a Gwleidyddiaeth

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

O'r Parthenon yn Athens i noddfa’r oracl cysegredig yn Delphi, dinasoedd Vergina ac Olynthos, a'r canolfannau crefyddol yn Delos ac Olympia, mae'r olion archeolegol o Wlad Groeg Glasurol yn y 5fed a'r 4 fed ganrif CC yn ennyn diddordeb parhaus.

Byddwn yn archwilio celf y cyfnod hwn, gan gynnwys darganfyddiadau fel cerflunwaith, pensaernïaeth, crochenwaith a waliau wedi'u paentio. Byddwn yn ystyried datblygiadau artistig Gwlad Groeg Glasurol yn eu cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol.

Wrth wneud hynny byddwn yn archwilio pynciau fel rhywedd, yr aelwyd, bywyd bob dydd mewn dinasoedd fel Athens hynafol, tirwedd a chefn gwlad, gwarchodfeydd ac arferion crefyddol, a'r hyn y mae'r astudiaeth o gladdu yn ei ddatgelu am gymdeithas.

Yn anad dim, byddwn yn dysgu am werthoedd, arferion a chonfensiynau Gwlad Groeg Glasurol, gan amlygu'r cysylltiadau pwerus rhwng ymdrech artistig a diwylliant ehangach.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu ar-lein, trwy ddeg sesiwn yn cynnwys darlithoedd wedi'u recordio a seminarau a gweithdai ar-lein fydd yn cynnwys trafodaeth ddosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd y sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog.

Maes Llafur:

  • Cyflwyniad: Beth yw Archeoleg Glasurol?
  • Pensaernïaeth Glasurol
  • Paentio a Chrochenwaith Clasurol
  • Polis a Noddfeydd.
  • Cerfluniau a Cherflunwyr Clasurol.
  • Rhaglen am Adeiladu’r Periclean, y Parthenon a'i Gerfluniau.
  • Claddedigaethau, Cymdeithas ac Eiconograffeg.
  • Tai Clasurol: Gofod Domestig a Rhywedd.
  • Cefn Gwlad: Anheddiad Gwledig yn Attica a Thu Hwnt.
  • Y Groegiaid yn y Gorllewin.

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad beirniadol byr
  • traethawd 1000 gair.

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • M.D. Fullerton, Greek Art (Cambridge, 2000).
  • R. Osborne, Archaic and Classical Greek Art (Oxford, 1998).
  • J.G. Pedley, Greek Art and Archaeology (London, 1993).
  • C.M. Robertson, A Shorter History of Greek Art (Cambridge, 1981).
  • J. Whitley, The Archaeology of Ancient Greece (Cambridge, 2001).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.