Ewch i’r prif gynnwys

Java I

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i gysyniadau rhaglennu JAVA.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.

Y Maes Llafur

  • Cyflwyniad i ddosbarthiadau a gwrthrychau
  • Trafod elfennau sylfaenol dosbarth (h.y. adeiladwyr, dulliau a newidynnau achos)
  • Y gwahaniaeth rhwng rhaglennig a rhaglen
  • Defnyddio gweithredwyr rhifol a dulliau’r dosbarth Mathemateg
  • Defnyddio dulliau dosbarth String
  • Gweithredwyr cymharol a defnyddio datganiadau ‘if’ ac yna ‘else’
  • Defnyddio dolenni ‘while’, ‘do’ a ‘for’
  • Mewnbynnu nodau a llinellau gan ddefnyddio’r bysellfwrdd
  • Dulliau Cyrchwr a Gosodwr
  • Dulliau statig a Newidynnau Statig
  • Hyd oes a chwmpas newidynnau lleol, paramedr ac achos
  • Creu a thrin araeau
  • Defnyddio dulliau dosbarth Nodau
  • Defnyddio dulliau dosbarth StringBuffer
  • Defnyddio dulliau dosbarth StringTokenizer
  • Cyflwyniad i ffeiliau testun
  • Cyflwyniad i ryngwyneb graffigol yr Abstract Windowing Toolkit (AWT)

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Horstman, C.S. (1999) Computing Concepts with Java 2 essentials. John Wiley.
  • Horstmann, C.S. (2002) Big Java. John Wiley.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.