Ewch i’r prif gynnwys

Sbaeneg Sgyrsiol Uwchraddol Is (cwrs ar-lein)

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi treulio sawl blwyddyn (6+) o astudiaethau rhan-amser a/neu os oes gennych eisoes lefel dda o Sbaeneg a hoffech ymarfer eich sgiliau sgwrsio ymhellach.

Bydd y cwrs hwn yn gwneud defnydd helaeth o ddeunyddiau clyweledol a chewch ddigonedd o gyfleoedd i ehangu eich geirfa weithredol.

Bydd y pynciau'n cynnwys materion cyfoes a materion cymdeithasol mewn gwledydd lle siaredir Sbaeneg.

Rhagor o wybodaeth:

  • Bydd 2 awr o hyfforddiant trwy weminarau byw ac 1 awr o baratoi ar gyfer pob sesiwn. Cyfanswm oriau 18. (byddwch yn cael y ddolen i'r sesiwn Zoom ychydig ddyddiau cyn i'r cwrs gychwyn)
  • Mae cyn-gofrestru yn hanfodol i gael mynediad at ein platfform ar-lein
  • Byddwch chi’n cael deunyddiau’r cwrs yn y sesiwn gyntaf.

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein platfform dysgu ar-lein

Mae cyn-gofrestru yn hanfodol i gael mynediad at ein platfform ar-lein

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer. Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Bydd 18 awr o sesiynau i gyd, gan gynnwys cymysgedd o sesiynau byw a rhai paratoadol. Byddwch yn cael y ddolen i'r sesiwn Zoom ychydig ddyddiau cyn i'r cwrs ddechrau.

Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs.

Gwaith cwrs ac asesu

Asesu Parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch chi’n cael yr holl ddeunyddiau.

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.