Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth a Diwylliant y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Roedd oes Fictoria’n llawn newidiadau mawr, o newidiadau cymdeithasol i rai technolegol.

Cewch eich cyflwyno i gyd-destunau diwylliannol, cymdeithasol a hanesyddol oes Fictoria ar draws ystod o destunau llenyddol, a byddwch yn archwilio amrywiaeth o wahanol genres, o’r nofel gyffro i ffuglen dditectif.

Byddwch yn astudio’r nofel Fictoraidd a’i datblygiad, yn ogystal â genres llenyddol eraill, gan gynnwys barddoniaeth a’r stori fer.

Dysgu ac addysgu

Caiff y modiwl ei addysgu ar-lein dros Zoom drwy ddeg sesiwn sy’n para dwy awr yr un a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach a dadleuon. Bydd adnoddau sy’n ategu’r sesiynau dosbarth ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Gall y pynciau gynnwys:

  • Datblygiad y nofel Fictoraidd
  • Realaeth
  • Ffuglen gyffro
  • Y ffuglen gothig
  • Ffuglen dditectif
  • Barddoniaeth Fictoraidd
  • Y stori fer
  • Hunaniaeth, cynrychiolaeth a hil
  • Rhyw a dosbarth cymdeithasol

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau’n ceisio rhoi hyder i chi, ac rydym yn gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn addas i oedolion prysur.

Bydd myfyrwyr yn creu portffolio, a all gynnwys adolygiadau byr, gwaith darllen agos a/neu draethodau. Bydd y portffolio’n cynnwys tua 1,800 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Detholiad o farddoniaeth a straeon byrion: copïau i'w darparu.

  • Dickens, Charles, Sketches by Boz (1836)
  • Bronte, Charlotte, Jane Eyre (1847)
  • Gaskell, Elizabeth North and South (1854)
  • Braddon, Mary Elizabeth, Lady Audley’s Secret (1862)
  • Rosetti, Christina, Goblin Market (1862)
  • Le Fanu, Sheridan, Carmilla (1871)
  • Conan Doyle, A Study in Scarlet (1887)
  • Wilde, Oscar, The Importance of Being Earnest (1895)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.