Ewch i’r prif gynnwys

Rhesymeg Anffurfiol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

A yw eich AS yn ymosod ar eraill yn bersonol ac yn defnyddio ystrydebau disylwedd wrth ddadlau? Pa mor bryderus yw prawf positif ar gyfer philosophicuscriticologicius?

Datblygwch eich gallu i werthuso rhesymeg pobl eraill a gwella eich un eich hun wrth ddatrys posau, ystyried paradocsau a dadansoddi dadleuon.

Does dim angen unrhyw wybodaeth flaenorol am athroniaeth.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

Byddwn yn ymwneud â natur gwahanol fathau o resymu, y meini prawf sy'n briodol i'w gwerthuso a phatrymau nodweddiadol o gryfderau a gwendidau yn y meddwl dynol.

Bydd dosbarthiadau'n cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau i ddangos cymhwysiad cysyniadau damcaniaethol. Gall y rhain gynnwys testunau athronyddol, achosion cyfreithiol, trafodaeth wleidyddol, hysbysebion, erthyglau papur newydd, trafodaethau ar-lein, ffuglen, gwaith empirig yn y gwyddorau dynol, yn enwedig seicoleg, cartwnau, posau a ffynonellau eraill.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Gofynnir i chi gynnal ymarferion yn y dosbarth (20%), aseiniad gartref (40%) a dadansoddiad o ddadl (40%).

Deunydd darllen awgrymedig

  • Tom Tymoczko and Jim Henle (1995). Sweet Reason: A Field Guide to Modern Logic. W. H.Freeman.
  • Lewis Carroll (1974). The Philosopher’s Alice. With an intro. by Peter Heath. (Introduction and notes by Heath, Peter. Illustrations by John Tenniel). New York: St. Martin’s.
  • Lewis Carroll (1895). ‘What The Tortoise Said To Achilles’. Mind 4, 278-280.
  • Lewis Carroll (2008). Alice’s Adventures in Wonderland. Project Gutenberg ebook.
  • Lewis Carroll (2008). Through the Looking-Glass. Project Gutenberg ebbok
  • Lewis Carroll (2003). The Game of Logic. Project Gutenberg
  • Raymond M. Smullyan (1982). Alice in Puzzle-Land: A Carrollian Tale for Children Under Eighty. With an intro. by Martin Gardner. Harmondsworth and New York: Penguin.
  • Raymond M. Smullyan (1982). The Lady or the Tiger? and Other Logic Puzzles. New York:Random House.
  • Raymond M. Smullyan (1982). To Mock A Mockingbird And Other Logic Puzzles Including An Amazing Adventure in Combinatory Logic. Oxford and New York: Oxford University Press.
  • Raymond M. Smullyan (1998). The Riddle of Scheherazade and Other Amazing Puzzles, Ancient & Modern. San Diego: Harcourt.
  • Raymond M. Smullyan (1978). What Is the Name of This Book? The Riddle of Dracula and Other Logical Puzzles. Englewood Cliffs, New Jersey: Prentice Hall.
  • Tom Stoppard (1976). Rosencrantz and Guildenstern are Dead. London: Samuel French.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.