Ewch i’r prif gynnwys

Heneiddio Drwy'r Oesoedd: Bioarchaeoleg a Phobl y Gorffennol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae oedran unigolyn yn effeithio ar sut mae ei ddiwylliant yn gweld yr unigolyn hwnnw.

Bydd y modiwl hwn yn archwilio dylanwad oedran yng nghymdeithasau'r gorffennol, o fod yn faban i fynd yn hŷn.

Wrth gyflwyno'r dulliau a ddefnyddir gan fio-archeolegwyr a defnyddio enghreifftiau o Brydain, Ewrop a Gogledd America, byddwn yn archwilio'r tri phrif fath o oedran: cronolegol, biolegol a chymdeithasol, cyn trafod y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng y cerrig milltir a chyfrifoldebau cymdeithasol sydd yn aml ynghlwm wrth oedran.

Byddwn yn archwilio sut mae'r rhain yn croestorri â hunaniaethau personol eraill, gan gynnwys rhywedd a chyfoeth.

Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddulliau megis amcangyfrif oedran o esgyrn a dannedd, dadansoddi diet a daearyddiaeth, ac arwyddion o glefyd a thrawma mewn sgerbydau dynol.

Byddwn yn gorffen trwy gymharu hyn oll â diwylliannau modern o bob cwr o'r byd.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl trwy naw sesiwn wyneb yn wyneb. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd ac yna trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl. Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  • Cyflwyniad a throsolwg o'r cwrs
  • Astudio poblogaethau bodau dynol a dulliau o amcangyfrif oedran
  • Babandod
  • Deunyddiau darllen ym maes bioarchaeoleg: gweithdy gwaith cwrs
  • Plentyndod
  • Y glasoed
  • Oedolion Ifanc
  • Oedolyn Hŷn
  • Oedran Heddiw

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad beirniadol byr
  • traethawd 1000 gair.

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl ynghylch y cryfderau a’r meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Argawal, S and Glencross, B. (2011) Social Bioarchaeology. Chichester: Wiley Blackwell.
  • Devlin, Z and Graham, E-J. (2015) Death embodied. Oxford: Oxbow.
  • Larsen, C. S. (1998) Bioarchaeology: Interpreting Behavior from the Human Skeleton. Cambridge University Press, Cambridge.
  • Parker-Pearson, M. P. (1999) The Archaeology of Death and Burial. Sutton, Gloucester.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.