Ewch i’r prif gynnwys

Iaith Sbaeneg Ganolradd (cwrs ar-lein)

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs dwys hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud 3 blynedd o astudiaethau rhan-amser (neu bedair blynedd, ond yn teimlo bod eich sgiliau siarad yn wan o hyd) ac rydych yn gallu cyfathrebu wrth wneud tasgau arferol lle mae angen cyfnewid gwybodaeth ar faterion cyfarwydd a chyffredin yn uniongyrchol.

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymarfer ac atgyfnerthu eich sgiliau iaith a siarad Sbaeneg yn hyderus.

Pynciau

  • cwrdd â phobl newydd: siarad am eich hoff bethau a’ch diddordebau
  • amser hamdden: siarad am wyliau a rhannu eich profiad
  • bwyd a diod: mynd i gael tapas
  • traddodiadau a gwyliau cenedlaethol: profi ffordd wahanol o fyw
  • teithio o amgylch Sbaen: dod o hyd i leoedd newydd megis El Camino de Santiago yn Sbaen.

Rhagor o wybodaeth

  • cwrs 18 awr
  • rhaid ymrestru ymlaen llaw.
  • byddwch chi’n cael deunyddiau’r cwrs yn y sesiwn gyntaf.
  • defnydd helaeth o’n labordai iaith digidol.

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer.

Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Asesu parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch chi’n cael yr holl ddeunyddiau.

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.