Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cwnsela
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Pauline Beesley | |
Côd y cwrs | SOC23A5545A | |
Ffi | £186 | |
Ffi ratach | £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 21-23 Ffordd Senghennydd |
Nod y modiwl hwn yw adeiladu ar sgiliau a ddatblygwyd eisoes mewn cyrsiau sgiliau cwnsela sylfaenol.
Bydd myfyrwyr yn archwilio Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cwnsela fel cyfraniad tuag at reoli straen ac iselder.
Dysgu ac addysgu
Addysgir y cwrs hwn trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau mewn grwpiau bach.
Ar ôl llwyddo yn y modiwl, dylai myfyriwr allu:
Gwybod a Deall:
Safbwyntiau ymwybyddiaeth ofalgar mewn cwnsela.
Sgiliau deallusol:
Myfyrio, dadansoddi safbwyntiau damcaniaethol.
Gwaith cwrs ac asesu
Asesir y cwrs hwn trwy ddyddlyfr myfyriol.
Deunydd darllen awgrymedig
- Mindfulness in Plain English Ven. Henepola Gunaratana
- The Mindful Way Through Depression: Freeing Yourself from Chronic Unhappiness, Williams, M., Teasdale, J, Segal Z., Kabat-Zinn, J.
- The Mindful Way Through Anxiety: Break Free from Chronic Worry and Reclaim Your Life, Orsillo, S.M., Roemer, L
- Breath by Breath: The Liberating Practice of Insight Meditation, Rosenberg, L.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.