Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglennu Shell a Perl I

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i system weithredu UNIX, sut i ddefnyddio sgriptiau awk a ffwythiannau awk i brosesu data testun, a sut i ddefnyddio sgriptiau Shell a Perl.

Mae'r pynciau a drafodir yn y cyflwyniad i system weithredu UNIX yn cynnwys trafodaeth am hierarchaeth y ffeiliau, defnyddio gorchmynion hanfodol cyfeiriaduron a ffeiliau, ac, yn olaf, cyrchu ffeiliau a chyfeiriaduron.  Bydd y pynciau a drafodir ar y cwrs iaith sgriptio shell yn cynnwys pedwar cam dehongli shell, sef amnewid gorchmynion, amnewid paramedrau, dehongli mannau gwag a chynhyrchu enwau ffeiliau, yn ogystal â dyfynnu a pharamedrau shell.

Bydd y pynciau a drafodir ar y cwrs iaith sgriptio Perl yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i ffwythiannau a gweithredwyr mathemategol
  • Gweithredwyr cymharu, a defnyddio datganiadau rheoli iterus ac amodol
  • Defnyddio’r ffwythiannau ‘chop’ a ‘chomp’ wrth fewnbynnu ar y bysellfwrdd
  • Defnyddio’r gweithredydd diemwnt (<>) i ddarllen ffeil testun
  • Defnyddio araeau a ffwythiannau araeau
  • Defnyddio gweithredwyr llinyn a ffwythiannau llinyn
  • Cyrchu ffeiliau trwy handlenni ffeiliau
  • Profion ffeiliau
  • Gweithredwyr rhesymegol
  • Paru patrymau
  • Dilysu data gan ddefnyddio byrfoddau rhagddiffiniedig ar gyfer dosbarthu nodau.

Bydd y gwaith a asesir yn cynnwys ysgrifennu sgriptiau.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am gael cyflwyniad cyffredinol da i raglennu cyfrifiadurol.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cyfuniad o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Y Maes Llafur

  • Cyflwyniad i rai gorchmynion UNIX hanfodol
  • Rheoli mynediad at ffeiliau a chyfeiriaduron gan ddefnyddio’r gorchymyn ‘chmod’
  • Cyflwyniad i Shell (Dehonglydd Gorchmynion UNIX)
  • Trafod pedwar cam dehongli shell, sef amnewid gorchmynion, amnewid paramedrau, dehongli mannau gwag, a chynhyrchu enwau ffeiliau
  • Rhaglenni shell (sgriptiau) a pharamedrau shell
  • Ddefnyddio’r lluniadau rhaglen ‘if’, ‘for’, ‘while’ a ‘case’ yn shell Bourne
  • Ddefnyddio’r lluniadau rhaglen ‘if’, ‘foreach’, ‘while’ a ‘switch’ yn shell C
  • Defnyddio gweithredwyr rhesymegol yn shell Bourne a shell C
  • Mewnbynnu trwy’r bysellfwrdd yn shell Bourne a shell C
  • Defnyddio’r gorchymyn awk i brosesu ffeil ddata
  • Defnyddio ffwythiannau awk mewn sgriptiau awk
  • Cyflwyniad i sgriptiau Perl
  • Defnyddio ffwythiannau a gweithredwyr mathemategol yn Perl
  • Gweithredwyr cymharu a defnyddio’r datganiadau ‘if’, ‘while’, ‘do while’, ‘until’, ‘do until’ a ‘for’
  • Defnyddio’r gweithredydd diemwnt (<>) i brosesu cynnwys ffeil
  • Defnyddio araeau yn Perl a chychwyn arae trwy fewnbynnu ar y bysellfwrdd
  • Defnyddio gweithredwyr llinyn a ffwythiannau llinyn yn Perl
  • Defnyddio handlenni ffeiliau i gyrchu ffeiliau, ynghyd â’r ffwythiannau ‘die’ ac ‘eof’

Deunydd darllen awgrymedig

  • Schwartz, R.L., Phoenix, T. (2001) Learning Perl. O'Reilly & Associates, 3ydd argraffiad

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.