Ewch i’r prif gynnwys

Amgylchedd Busnes

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nod y modiwl cyfoes hwn yw gosod busnes o fewn cyd-destun ehangach gwleidyddiaeth a chymdeithas, ac mae’n asesu’r berthynas rhwng busnes a nifer o amgylcheddau cysylltiedig.

Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys yr amgylchedd gwleidyddol, yr amgylchedd cymdeithasol, yr amgylchedd cyhoeddus, yr amgylchedd ecolegol, a'r amgylchedd Ewropeaidd.

Gellir cymryd modiwl Amgylchedd Busnes fel cwrs annibynnol neu fel modiwl 10 credyd ar y cwrs Llwybr i Reoli Busnes.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Modiwl 10 credyd yw Amgylchedd Busnes ar y rhaglen Llwybr at Fusnes a Rheoli.

Dysgu ac addysgu

Sesiynau yn y dosbarth dan arweiniad tiwtor, seminarau dan arweiniad myfyrwyr. Bydd un ysgol dydd Sadwrn ar gyfer sgiliau astudio. Mae eich dysgu a’ch addysgu ar gyfer y modiwl hwn yn seiliedig ar astudiaethau hunangyfeiriedig.

Gwaith cwrs ac asesu

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.