Ewch i’r prif gynnwys

Sbaeneg Canolradd Uwch D

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddefnyddio ystod ehangach o sgiliau llafar, clywedol ac ysgrifenedig, yn ddigonol ar gyfer siarad yn hyderus mewn Sbaeneg ar bynciau dewisol.

Byddwch hefyd yn ymarfer sgiliau gwrando fydd yn eich galluogi i ddeall Sbaeneg ar gyflymder darllen newyddion. Byddwch yn dysgu deall y rhan fwyaf o'r erthyglau yng ngwasg Sbaen a rhoi sylw ar eu cynnwys ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth o ddiwylliant gwledydd lle siaredir Sbaeneg ymhellach.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar siarad, ac, yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i ymarfer eich sgiliau siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp; gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; darllen testunau papurau newydd; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg.

Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:  Ffilmiau, theatrau a chyngherddau; Twristiaeth; Digwyddiadau a'u goblygiadau; Ecoleg a'r Amgylchedd; Iechyd Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, gan gynnwys y canlynol: Mynegiannau ac arddodiaid y modd dibynnol, Y Modd Dibynnol ac Amodol, defnydd arbennig o'r berfenw, Modd Dibynnol y Presennol a "se". Y llyfr testun yw Ramon Palencia, Nuevo Ele, Intermedio (Gwersi 8-12).

Cwrs i chi yw hwn os ydych wedi medru'r Sbaeneg yn dda ers tro, a’ch bod eisiau gloywi a gwela eich dealltwriaeth a’ch mynegiant (astudiaeth ran-amser am dair blynedd neu Safon Uwch 'rydlyd').

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gryfhau’ch hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Gwaith cwrs ac asesu

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs. Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Nuevo Prisma A2. Libro del alumno. Editiorial Edinumen

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.