Ewch i’r prif gynnwys

Sbaeneg Uwchraddol Uwch – Cam G

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ehangu eich sgiliau iaith llafar, clywedol ac ysgrifenedig er mwyn datblygu gwybodaeth fanwl a dealltwriaeth effeithiol o'r strwythurau, cyweiriau ac egwyddorion ieithyddol sydd eu hangen er mwyn dadansoddi a thrin y Sbaeneg.

Byddwch yn caffael medrusrwydd gweithredol effeithiol yn Sbaeneg sy’n galluogi cyfathrebu rhugl a digymell.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar siarad, ac, yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i ymarfer eich sgiliau siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp; byddwch yn gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; byddwch yn darllen testunau papurau newydd cymhleth; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am strwythurau ieithyddol Sbaeneg.

Bydd y cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau a fydd yn cael eu haddasu i gyd-fynd â diddordebau’r myfyrwyr.

Bydd deunydd go iawn yn cael ei ddarparu ar ffurf amrywiaeth o bapurau newydd a chylchgronau Sbaeneg o safon, rhaglenni dogfen fideo a thapiau sain yn ymwneud â materion cyfoes a phynciau llenyddol.

Dyma enghreifftiau o'r testunau fydd yn cael eu cynnwys:

  • Gwledydd lle siaredir Sbaeneg
  • gwahaniaethau rhanbarthol yn Sbaen (cymeriad, iaith, bwyd, gwyliau ac ati.)
  • agweddau hanesyddol Sbaen/America Ladin yn yr 20fed ganrif
  • agweddau sosio-economaidd
  • y ddinas o'i chymharu â'r wlad yn Sbaen ac America Ladin
  • gweithio yn Sbaen
  • materion cymdeithasol
  • y teulu
  • agweddau cymdeithasol
  • tueddiadau cymdeithasol e.e. gwib-fachu ('speed-dating')
  • cymdeithasu
  • y loteri
  • materion ynghylch iechyd a gwyddoniaeth
  • teithio h.y. prynu eiddo yn Sbaen
  • technoleg
  • pynciau gwleidyddol/cymdeithasol/economaidd presennol
  • Ffilmiau Sbaen ac America Ladin
  • cyfieithiadau o Saesneg i ramadeg Sbaeneg
  • adolygu gramadeg pan mae'n briodol gwneud

Defnyddir deunydd dilys ar ffurf taflenni i'w dosbarthu.

Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os oes gennych afael ardderchog ar Sbaeneg ac yn ei defnyddio'n rheolaidd. (chwe blynedd o astudio'n rhan-amser a/neu Sbaeneg Uwchraddol Cam F) Bydd y lefel hon yn gwella eich sgiliau iaith sydd bron yn agos at lefel mamiaith.

Gall cymryd y cwrs hwn gyfrannu at y llwybr at radd mewn ieithoedd modern.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs. Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.