Ewch i’r prif gynnwys

Dosbarthiadau Meistr Llenyddiaeth

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Caiff ymrestriadau hwyr eu derbyn ar ôl i’r cwrs ddechrau. Anfonir ymholiadau at Dr Michelle Deininger drwy learn@caerdydd.ac.uk.

Ydych chi'n chwilfrydig i ddysgu mwy am ymchwil ym maes Llenyddiaeth Saesneg?

Hoffech chi archwilio pynciau arloesol ym maes y dyniaethau gyda chymorth arbenigwr? Mae'r Dosbarth Meistr Llenyddiaeth yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymwneud â dadleuon cyfredol mewn llenyddiaeth o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw, gan archwilio sut mae testunau llenyddol wedi'u gwreiddio yn eu cyd-destunau diwylliannol a sut maent yn ymdrin â materion megis hunaniaeth, rhyw, gwleidyddiaeth, cyfiawnder cymdeithasol, a llawer mwy hefyd.

Caiff myfyrwyr eu haddysgu gan dîm o diwtoriaid sy'n arbenigwyr yn eu priod feysydd ac yn awyddus i drafod a dadlau ynghylch eu gwaith ymchwil â dysgwyr sy'n oedolion. Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu dros ddau dymor er mwyn rhoi amser i fyfyrwyr ddarllen a myfyrio rhwng sesiynau.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, dros ddau dymor, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Bydd y myfyrwyr yn derbyn rhestr lawn o bynciau a dyddiadau cyn i'r modiwl ddechrau.

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Seilir yr asesiad ar bortffolio o ysgrifennu (tua 1500 o eiriau). Gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu traethawd, sawl darn beirniadol byrrach, dyddiadur adolygu, cyfrifon myfyriol, a/neu ymatebion creadigol i'r testunau llenyddol.

Maes llafur arfaethedig

  • Wythnos 1 (26 Hydref): Catherine Phelps – Crime Fiction in the Age of Brexit. – The Road gan Cormac McCarthy: apocalyps a goroesi mewn ffuglen ôl-9/11
  • Wythnos 2: (16 Tachwedd) Gemma Scammell – Menywod Blaenllaw Murakami: y di-enw a’r di-fflach

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd pob tiwtor yn darparu rhestr ddarllen cyn eu sesiwn hwythau.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.