Ewch i’r prif gynnwys

Ymddygiad Proffesiynol mewn Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â cham-ddealltwriaethau cyffredin ynghylch rôl cyfieithwyr ar y pryd mewn gwasanaethau cyhoeddus gan gyfeirio at y Model Diduedd o gyfieithu ar y pryd mewn gwasanaeth cyhoeddus a adlewyrchir yng Nghodau Ymddygiad sefydliadau perthnasol.

Ei nod yw hyrwyddo ymddygiad proffesiynol ymhlith cyfieithwyr gwasanaeth cyhoeddus drwy godi ymwybyddiaeth o'r wybodaeth, y sgiliau, y ddealltwriaeth a'r datblygiad proffesiynol parhaus sydd eu hangen, gan gynnwys ymchwilio i derminoleg, paratoi aseiniadau a gweithio’n llawrydd.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei addysgu yn Saesneg ond wedi'i lunio ar gyfer myfyrwyr dwyieithog sydd eisoes yn gweithio neu sydd â diddordeb mewn gweithio fel cyfieithwyr gwasanaeth cyhoeddus ac mae'n hanfodol ar gyfer y rheini yn bwriadu cofrestru ar y cwrs iechyd cyfieithu ar y pryd mewn gwasanaeth cyhoeddus arbenigol sy'n rhedeg o fis Ionawr i fis Mehefin, lle caiff y pynciau a drafodir yn y modiwl hwn eu datblygu ymhellach a'u cymhwyso at leoliadau iechyd.

Dylech chi allu deall a mynegi syniadau cymhleth gan amlygu gramadeg, sillafu ac atalnodi cywir, a dylai fod gafael dda ar Saesneg idiomatig gyda chi. Dylai fod modd i rywun mae’r Saesneg yn famiaith iddo eich deall ar lafar ac ar bapur heb anhawster.

Os Saesneg yw’ch mamiaith, mae’r hyn uchod yn berthnasol i’r ieithoedd eraill rydych chi’n bwriadu eu defnyddio ym maes cyfieithu. Os nad ydych yn gallu darllen a / neu ysgrifennu yn eich iaith eraill, mae modd i chi ddilyn y cwrs o hyd, ond rhaid i chi roi gwybod i’r tiwtor ar y cychwyn.

Bydd angen i’r myfyrwyr allu cael mynediad at gyfleusterau TG gan fod y cwrs yn dibynnu ar ddefnyddio system e-bost a Rhith-amgylchedd Dysgu Prifysgol Caerdydd (sef Dysgu Canolog) i gael cyhoeddiadau gan y tiwtor a mynediad at wybodaeth a deunyddiau’r cwrs.

Dysgu ac addysgu

  • Rhoddir cyflwyniad i fyfyrwyr i brif egwyddorion ymddygiad proffesiynol ar gyfer cyfieithwyr gwasanaeth cyhoeddus (PS) gan gyfeirio at y model diduedd cyfieithu mewn gwasanaeth cyhoeddus. Bydd y tiwtor yn dangos sut maen nhw’n cael eu cymhwyso i sefyllfaoedd a lleoliadau amrywiol.
  • Bydd y sgiliau sydd eu hangen ar gyfieithydd yn y gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hamlinellu a’u hesbonio.
  • Bydd y myfyrwyr yn cael eu harwain i ymchwilio i derminoleg a datblygu eu geirfaoedd eu hunain, ac yn cael eu cyflwyno i sgiliau aralleirio.
  • Bydd materion ymarferol yn ymwneud â gweithio fel cyfieithydd ar y pryd gwasanaeth cyhoeddus yn y DU yn cael eu hamlinellu a’u trafod.

Gwaith cwrs ac asesu

Mae disgwyl i fyfyrwyr dreulio cyfartaledd o bedair awr o amser astudio ychwanegol am bob awr a dreuliant yn yr ystafell ddosbarth.

Yn ystod y cwrs, byddant yn cael eu cynorthwyo i ddefnyddio Dysgu Canolog er mwyn ymgymryd â gwaith darllen ac ymchwil perthnasol.

Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i derminoleg a fydd yn ymddangos mewn profion ysgrifenedig a gwaith ymarferol. Rhaid i chi fod yn bresennol yn o leiaf 50% o'r gwersi.

Ar gyfer y cwrs hwn, mae’r asesiadau’n cynnwys profion ysgrifenedig byr drwy gydol y cwrs a gwaith llafar dwyieithog tuag at ddiwedd y cwrs.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu, sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Tudalennau ac adnoddau sy'n gysylltiedig â’r Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (DPSI) a’r cylchgrawn The Linguist, y ddau o wefan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion.

Y Cod Ymddygiad ar gyfer NRPSI (Cofrestr Genedlaethol Cyfieithwyr mewn Gwasanaeth Cyhoeddus).

Bydd adnoddau perthnasol eraill yn cael eu gosod ar Dysgu Canolog yn ystod y cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.