Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglennu C ++

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i iaith raglennu C++ a sut i’w defnyddio.

Ar ôl y cwrs hwn byddwch wedi ennill sgiliau rhaglennu sylfaenol C++ a dealltwriaeth o syniadau rhaglennu sy'n canolbwyntio ar y gwrthrych.

Mae'r pynciau a drafodir yn y cwrs hwn yn cynnwys:

  • cyflwyniad i ddosbarthiadau a gwrthrychau
  • newidynnau dosbarthiadau
  • adeiladwyr a swyddogaethau
  • adeiladwyr a swyddogaethau wedi’u gorlwytho
  • mynediad cyhoeddus a phreifat i newidynnau a swyddogaethau
  • gweithredwyr rhifyddeg
  • mewnbwn ac allbwn syml
  • gweithredwyr cymharu a defnyddio datganiadau rheoli ailadroddol ac amodol
  • fformatio allbwn
  • defnyddio swyddogaethau llyfrgell a chreu swyddogaethau wedi’u diffinio gan y defnyddiwr
  • cyflwyniad i bwyntyddion
  • cyflwyniad i resi (arrays)
  • cael gafael ar resi gan ddefnyddio is-sgriptiau a phwyntyddion
  • defnyddio dosbarthiadau sy'n cynnwys swyddogaethau statig a newidynnau statig
  • cyflwyniad i etifeddiaeth trwy greu dosbarth sy'n deillio o ddosbarth sylfaen
  • swyddogaethau wedi’u hetifeddu a’u diystyru yn y dosbarth wedi’i ddeillio
  • defnyddio gweithredwyr newydd a wedi’u dileu i ddyrannu a rhyddhau cof yn ddeinamig
  • defnyddio swyddogaethau llyfrgell fstream i gyrchu ffeiliau a defnyddio dosbarthiadau a ddiffinnir gan y defnyddwyr i ysgrifennu rhaglenni sy'n canolbwyntio ar y gwrthrych.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am C++.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am gael cyflwyniad cyffredinol da i raglennu sy’n canolbwyntio ar wrthrychau.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, bydd myfyrwyr yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Maes Llafur

  • Mathau o ddata
  • Cyflwyniad i ddosbarthiadau a gwrthrychau
  • Y gwahaniaeth rhwng mynediad cyhoeddus a phreifat i ffwythiannau a data
  • Cyflwyniad i adeiladwyr
  • Adeiladwyr gorlwythedig
  • Gweithredwyr rhifol a pherthynol
  • Defnyddio datganiadau rheoli iterus ac amodol
  • Cyrchu araeau gan ddefnyddio is-sgriptiau a phwyntyddion
  • Fformatio allbwn
  • Defnyddio ffwythiannau llinynnol
  • Defnyddio ffwythiannau statig a newidynnau statig o fewn dosbarth
  • Defnyddio gweithredwr newydd i ddyrannu cof yn ddeinamig a defnyddio neu ddileu gweithredwr i ryddhau cof
  • Trafod gwallau dyrannu cof
  • Defnyddio ffwythiannau llyfrgell iostream i gael mewnbwn gan y bysellfwrdd
  • Cyflwyniad i etifeddiaeth trwy greu dosbarth sy’n deillio o ddosbarth sylfaen
  • Ffwythiannau wedi eu hetifeddu a’u diystyru yn y dosbarth deilliedig
  • Galw adeiladwr dosbarth sylfaen penodol o’r dosbarth deilliedig
  • Rheoli mynediad dosbarth sylfaen
  • Prosesu dadleuon llinell orchymyn
  • Ysgrifennu a darllen ffeiliau gan ddefnyddio ffwythiannau llyfrgell fstream
  • Defnyddio dosbarthiadau a ddiffiniwyd gan y defnyddiwr i ysgrifennu rhaglenni sy’n canolbwyntio ar wrthrychau

Deunydd darllen awgrymedig

Schildt, H. (2003) C++ from the Ground Up. Osborne McGraw-Hill.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.