Ewch i’r prif gynnwys

Problemau Craidd Athroniaeth y Gorllewin

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Pam fod yna rywbeth, yn hytrach na dim byd? A oedd dechreuad i’r byd mewn amser, neu a yw’n ddiderfyn?

A oes modd i ddeallusrwydd artiffisial fod yn hunanymwybodol? Sut ydyn ni'n parhau i fod yr ‘un’ person pan fydd y rhan fwyaf o gelloedd yn ein corff yn cael eu disodli'n naturiol dros amser?

Dyma rai o broblemau craidd yr athroniaeth dan sylw yn y cwrs hwn, yr atebion sy'n helpu i ehangu a chyfoethogi ein dealltwriaeth ohonom ni ein hunain a’r byd yr ydym yn rhan ohono. Does dim angen unrhyw wybodaeth flaenorol am athroniaeth.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y modiwl hwn dros 10 sesiwn, dwy awr o hyd, wedi’u cyflwyno’n wythnosol.

Cyflwynir y dosbarthiadau drwy amrywiaeth o ddarlithoedd, gweithdai, ymarferion trafod a gwaith grŵp. Bydd myfyrwyr yn derbyn taflenni a rhestr ddarllen, sy’n caniatáu iddynt ddarllen am bynciau perthnasol, ac yn eu galluogi hefyd i ddatblygu eu diddordebau eu hunain a nodi’r cwestiynau allweddol y bydd gofyn iddynt eu hateb yn eu hasesiadau.

Cynnwys dangosol

  • Wythnos 1: Cyflwyniad - Tair elfen graidd broblemus: Bod, Gwybod a Gweithrediad.
  • Wythnos 2: Problem 1 - Pam rhywbeth yn hytrach na dim byd? Testun: Derek Parfit – ‘Why anything? Why this?’
  • Wythnos 3: Problem 2 - A yw’r byd yn ddiderfyn? Testun: Immanuel Kant – ‘The antinomy of pure reason’.
  • Wythnos 4: Problem 3 - Sut rydyn ni’n gwybod ein bod yn gwybod? Testun: Edmund Gettier – ‘Is Justified True Belief knowledge?’
  • Wythnos 5: Problem 4 - All deallusrwydd artiffisial ennill ymwybyddiaeth ? Testun: John Searle – ‘Minds, Brains, and Programs’.
  • Wythnos 6: Problem 5 - A yw’r meddwl yn ffisegol? Testun: Thomas Nagel – ‘What is it like to be a bat?’
  • Wythnos 7: Problem 6 - A wyf yr un person nawr ag yr oeddwn ddoe? Testun: Theodore Sider – ‘Four Dimensionalism’.
  • Wythnos 8: Problem  7 - A yw ‘ffeithiau’ moesol yn cyfateb i ffeithiau naturiol? Testun: Oliver Curry – ‘Who’s Afraid of the Naturalistic Fallacy?’
  • Wythnos 9: Problem 8 - A yw ‘cymeriad moesol’ yn fwy cysylltiedig â ffawd na barn? Testun: Bernard Williams – ‘Moral Luck’.
  • Wythnos 10: Problem 9 - A yw byd ‘go iawn’ yn bodoli’n annibynnol ar ein cysyniad ohono? Testun: Curtis Brown – ‘Internal Realism: Transcendental Idealism?

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd aseiniadau ar ffurf portffolio ysgrifenedig o dri darn 500 gair neu aseiniad hwy o tua 1500 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Russell, Bertrand. The Problems of Philosophy (Oxford University Press, 1959)
  • Nagel, Thomas. Mortal Questions (Cambridge University Press, 1979)
  • Mackie, J.L. Ethics: Inventing Right and Wrong (Penguin Books, 1990)
  • Hamlyn, D.W. Metaphysics (Cambridge University Press, 1984)
  • Scruton, Roger. Kant: A Very Short Introduction (Oxford University Press, 2001)
  • Norris, Christopher. Philosophy of Language and the Challenge to Scientific Realism (Routledge, 2004)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.