Ewch i’r prif gynnwys

Groeg i Ddechreuwyr II

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn, sy’n dilyn ymlaen o Groeg i Ddechreuwyr I yn gwella sgiliau iaith a gwrando ymhellach, ac yn rhoi cyflwyniad i ramadeg fwy cymhleth.

Nid yw'n addas ar gyfer dechreuwyr llwyr a dylai myfyrwyr sy'n ymuno wrth y cam hwn fod yn gwybod sut i ddarllen Groeg, a chael ychydig o afael ar strwythur yr iaith.

Er bod y pwyslais ar siarad, byddwch hefyd yn dysgu rhagor o strwythurau gramadegol sylfaenol a phatrymau brawddegau. Byddwch yn dysgu sut i:

  • ddarllen llythrennau a thestunau sylfaenol
  • deall deialogau dilys, a llunio eich deialogau eich hun trwy waith grŵp a/neu bâr yn ystod y wers.

Byddwch yn cwblhau ymarferion ysgrifenedig gartref. Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:

  • Siopa
  • Teithio/Gwyliau
  • archebu ystafelloedd mewn gwestai
  • Siarad am y teulu
  • Lliwiau
  • Siarad amdanoch eich hun
  • Mynegi barn

Gramadeg:

  • mynegiadau: Rwy eisiau; Rwy o'r farn; Rwy'n gallu,
  • defnyddio'r fannod i ddisodli enwau,
  • rhagenwau meddiannol (pwysleisiol)
  • ffurfdroadau o gategorïau amrywiol o enwau,
  • amser y gorffennol; amser y presennol a'r modd dibynnol.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â dealltwriaeth hynod sylfaenol o iaith Groeg ac sydd am allu gwella eu sgiliau sgwrsio sylfaenol wrth deithio i Wlad Groeg.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.