Ewch i’r prif gynnwys

Gwella eich Eidaleg – Cam B

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddefnyddio amrywiaeth ehangach ond cyfyngedig o sgiliau iaith llafar, clywedol ac ysgrifenedig.

Er bod y pwyslais ar siarad, byddwch hefyd yn dysgu rhagor o strwythurau gramadegol a phatrymau brawddegau sy'n hanfodol ar gyfer gwneud cynnydd pellach mewn Eidaleg.

Yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp; gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; darllen testunau byr; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg.

Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:

  • siarad am y teulu a pherthnasoedd
  • arferion Eidalwyr wrth y bwrdd
  • bwyd a diod
  • y sinema Eidalaidd
  • disgrifio rhywbeth
  • siarad am ffilmiau
  • mynegi hoff bethau a chas bethau
  • siopa
  • mynegi llawenydd a siom
  • teithio yn yr Eidal
  • ffasiwn a steil
  • siarad am y teledu
  • siarad am gerddoriaeth
  • mynegi barn

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, gan gynnwys y canlynol: adferfau a rhagenwau meddiannol, quello; bello; volerci; metterci, amser amherffaith y ferf, Trapassato Prossimo, rhagenwau uniongyrchol; rhagenwau cyfrannol, ce l'ho; ce n'e, berfau atblygol, ymadroddion a ffurfiau amhersonol, rhagenwau anuniongyrchol, y gorchmynnol, yr amodol syml a chyfansawdd.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth elfennol o Eidaleg, ac sy’n dymuno gwella eu sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn glywedol ac yn ysgrifenedig.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs. Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Ceir rhestr o’r gwerslyfrau a argymhellir yn y sesiwn gyntaf.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.