Ewch i’r prif gynnwys

Y Groegiaid Anweladwy: Bywydau Angof Pobl Hynafol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Wrth astudio’r Hen Roeg, mae tueddiad i flaenoriaethu straeon am oresgyniadau ac ehangu, sy'n bennaf yn deillio o hanesion a thystiolaeth ffisegol y mae elît gwrywaidd Groeg wedi'u gadael ar ôl. Er hyn, roedd poleis Groeg yn ganolfannau amrywiaeth.

Nod y modiwl hwn yw dod o hyd i'r lleisiau ymylol yn yr Hen Roeg a'i hymerodraeth. Gyda chanran uchel o dystiolaeth hynafol yn deillio o elît gwrywaidd Groeg, bydd y modiwl yn ystyried y rhwystrau sy'n rhaid eu goresgyn er mwyn cael mynediad at fywydau amlweddog menywod, caethweision, pobl o dramor, tlodion a throseddwyr.

Bydd yr archwilio hwn ochr yn ochr ag ymwybyddiaeth o sut mae dadleuon modern, megis ffeministiaeth a theori ôl-drefedigaethol wedi dylanwadu ar hanes yr henfyd fel disgyblaeth. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau bydd y modiwl yn holi cwestiynau megis: a yw hanesion mytholegol am fenywod ffiaidd, megis Medwsa, yn ddefnyddiol er mwyn deall delfrydau rhyweddol yn yr Hen Roeg?

Beth oedd agweddau'r Groegiaid tuag at dramorwyr, ac a wnaeth yr agweddau hynny newid dros amser? Bydd hyn yn arwain at y pwnc olaf, fydd yn ystyried datblygiadau newydd cyffrous o fewn hanes yr henfyd, megis astudio'r anabl a chanfyddiadau newydd o Gaerdroea (Troy).

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes yr henfyd a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n rhan o lwybr Archwilio’r Gorffennol a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy naw sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Ymhlith y pynciau a drafodir y mae:

  • Cyflwyniad: chwilio am fywydau angof yn yr Hen Roeg
  • Menywod yn y Cyfnod Clasurol
  • Menywod yn y Cyfnod Helenistaidd
  • Plant
  • Caethweision
  • Tramorwyr
  • Tlodion a throseddwyr
  • Rhyw, puteindra a bod yn hoyw
  • Meysydd ymchwil newydd i fywyd yn yr Hen Roeg

Gwaith cwrs ac asesu

Caiff y modiwl hwn ei asesu drwy ddau aseiniad byr a fydd yn cynnwys oddeutu 1,500 o eiriau i gyd.

Deunydd darllen awgrymedig

  • O. Bobou. Children in the Hellenistic World: statues and representation (Oxford, 2015)
  • B. Goff (ed.). Classics and Colonialism (London, 2005)
  • M. R. Lefkowitz and M. B. Fant. Women’s Life in Greece and Rome: a source book in translation (London, 2005)
  • S. Pomeroy. Families in Classical and Hellenistic Greece: representations and realities (Oxford and New York, 1997)
  • M. L. Rose. The Staff of Oedipus: Transforming Disability in Ancient Greece (Ann Arbor, 2003)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.