Eidaleg Sgyrsiol Canolradd (cwrs ar-lein)
Hyd | Dydd Llun 21 Mehefin i ddydd Iau 1 Gorffennaf 2021 |
---|---|
Tiwtor | Dr Bruna Chezzi |
Côd y cwrs | ITA20A2638A |
Ffi | £136 |
Ffi ratach | £117 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) |
Mae’r cwrs dwys hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud 2 flynedd o astudiaethau rhan-amser (neu 3 blynedd, ond yn teimlo bod eich sgiliau cyfathrebu yn wan o hyd) ac rydych yn gallu cyfathrebu wrth wneud tasgau arferol lle mae angen cyfnewid gwybodaeth uniongyrchol ar faterion cyfarwydd a chyffredin.
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymarfer ac atgyfnerthu eich sgiliau iaith er mwyn siarad Sbaeneg yn hyderus.
Bydd 2 awr o hyfforddiant trwy weminarau byw ac 1 awr o baratoi ar gyfer pob sesiwn.
Mae cyn-gofrestru yn hanfodol i gael mynediad at ein platfform ar-lein
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Cewch y cyfle i ymarfer mewn grwpiau bach, cymryd rhan mewn ymarferion chwarae rôl, darllen a gwylio deunyddiau dilys o amrywiaeth o gyd-destunau a sefyllfaoedd.
Prif nod y cwrs yw ymarfer y pedwar sgil iaith, gyda phwyslais ar ryngweithio.
Pynciau
- hamdden
- teithio
- chwaraeon
- gwyliau
- iechyd.
Rhagor o wybodaeth
- cwrs 18 awr
- dim mwy nag 16 o fyfyrwyr
- rhaid ymrestru ymlaen llaw
- darperir deunyddiau’r cwrs yn y sesiwn gyntaf
- defnydd helaeth o’n labordai iaith digidol
Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.
Bydd 18 awr o sesiynau i gyd, gan gynnwys cymysgedd o sesiynau byw a rhai paratoadol. Byddwch yn cael y ddolen i'r sesiwn Zoom ychydig ddyddiau cyn i'r cwrs ddechrau.
Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs
Gwaith cwrs ac asesu
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.