Ewch i’r prif gynnwys

Hanes Caerdydd: O Gaer Rufeinig i Brifddinas

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Elizabeth Jones
Côd y cwrs HIS23A5156A
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Mae’r cwrs hwn yn archwilio’r prif ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol sydd wedi llunio stori Caerdydd.

Dros 10 wythnos, byddwch yn dysgu am ddatblygiad cynnar y ddinas yn nwylo’r Rhufeiniaid a’r Normaniaid, ei thwf fel tref sir a phorthladd, ac etifeddiaeth y teulu Bute; byddwch hefyd yn archwilio gweithgareddau amrywiol sydd wedi hoelio sylw pobl Caerdydd dros y canrifoedd, o wleidyddiaeth, addysg a chrefydd i ddiwylliant, adloniant a chwaraeon.

Mae’r prif amlinelliad hanesyddol yn cwmpasu:

  • Tarddiadau Caerdydd
  • Datblygiad Rhufeinig
  • Meddiannaeth y Normaniaid
  • Caerdydd yn yr Oesoedd Canol
  • Yr 16eg a’r 17eg ganrif: tref sirol Morgannwg
  • Yr 18fed a’r 19eg ganrif: y diwydiant glo a datblygiad y dociau, morio a thrwsio llongau
  • Teulu Bute
  • Yr 20fed ganrif: statws dinesig a phrifddinas Cymru

Mae'n cwmpasu'r themâu canlynol:

  • Twf poblogaeth a mewnfudo
  • Gwleidyddiaeth ac agweddau
  • Digwyddiadau lleol a chenedlaethol
  • Bywyd y bobl: galwedigaethau, tai, addysg, crefydd, diwylliant, hamdden, chwaraeon

Dysgu ac addysgu

Cynhelir y dysgu ac addysgu drwy weithio mewn grwpiau bach. Mae hwn yn gwrs 10 credyd, felly bydd cyfarfod dwy awr unwaith yr wythnos (cyfanswm o 20 o oriau cyswllt) a fydd yn cynnwys grwpiau trafod, ymarferion, dadansoddi ffynonellau a chyflwyno deunydd ar fideo a/neu DVD.

Y nod yw sicrhau bod y dosbarthiadau’n bleserus ac ysgogol i bawb. Bydd hyn yn annog datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r pynciau a’r syniadau a drafodir yn ystod y cwrs.

Gwaith cwrs ac asesu

Traethodau neu orchwylion ysgrifenedig cyfatebol eraill hyd at 1500 o eiriau sy'n dangos eich bod yn deall elfennau craidd deunydd y cwrs.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion dosbarth. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs, neu lunio portffolio.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gryfhau’ch hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Edgar L. Chappel, History of the Port of Cardiff (Cardiff. 1939; second edition, 1994)
  • John Davies, Cardiff and the Marquesses of Bute (Cardiff, 1981)
  • J. Daunton, Coal Metropolis: Cardiff 1870-1914 (Leicester, 1977)
  • Dennis Morgan, The Cardiff Story (Cardiff, 1991; reprinted, 2001)
  • Dennis Morgan, The Illustrated History of Cardiff's Suburbs (Derby, 2003) Dic Mortimer, Cardiff: The Biography (Stroud, 2014) Nick Shepley, The Story of Cardiff (Stroud, 2014)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.