Ewch i’r prif gynnwys

Dehongli Gwasanaeth Cyhoeddus - Iechyd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Cynlluniwyd y cwrs hwn i helpu myfyrwyr dwyieithog i ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol i weithio fel cyfieithwyr ar y pryd gwasanaeth cyhoeddus mewn lleoliadau iechyd.

Cwrs arbenigol yw hwn a gynlluniwyd i ddatblygu ymhellach ac ymdrin yn fanylach â’r pynciau a addysgwyd yn y modiwl "Ymddygiad Proffesiynol mewn Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus", ac argymhellwn yn gryf fod myfyrwyr yn cwblhau’r modiwl hwnnw cyn cofrestru ar y modiwl hwn.

Dylent fod yn gyfarwydd â Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion (CIoL), Cofrestr Genedlaethol o Gyfieithwyr ar y Pryd Gwasanaeth Cyhoeddus (NRPSI) a'r arholiad Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI).

Mae'r cwrs yn cynnig canllawiau ar baratoi ar gyfer arholiadau'r Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd (DPSI) ar gyfer llwybr iechyd a gynhelir gan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion, ond mae croeso hefyd i fyfyrwyr nad ydynt yn bwriadu sefyll yr arholiadau DPSI.

I gael rhagor o wybodaeth am sefyll yr arholiad DPSI ewch i dudalen cwrs Diploma Cyfieithu ar y pryd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ar dudalennau gwe'r Ysgol Ieithoedd Modern.

Addysgir y cwrs yn Saesneg. Dylech chi allu deall a mynegi syniadau cymhleth gan amlygu gramadeg, sillafu ac atalnodi cywir, a dylai fod gafael dda ar Saesneg idiomatig gyda chi. Dylai fod modd i rywun mae’r Saesneg yn famiaith iddo eich deall ar lafar ac ar bapur heb anhawster.

Os Saesneg yw’ch mamiaith, mae’r hyn uchod yn berthnasol i’r ieithoedd eraill rydych chi’n bwriadu eu defnyddio ym maes cyfieithu.

Bydd y cyrsiau ar gael ichi hyd yn oed os na allwch chi ddarllen nac ysgrifennu’ch iaith arall, er na fydd modd sefyll rhai rhannau o arholiad y DPSI ac ennill y cymhwyster cyflawn. Dylech roi gwybod i'r tiwtor ar ddechrau'r cwrs.

Bydd angen i fyfyrwyr allu cael mynediad at gyfleusterau TG gan fod y cwrs yn dibynnu ar ddefnyddio system e-bost a Rhith-amgylchedd Dysgu Prifysgol Caerdydd (sef Dysgu Canolog) i gael cyhoeddiadau gan y tiwtor a mynediad at wybodaeth a deunyddiau’r cwrs.

Dysgu ac addysgu

  • Bydd myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo i gymhwyso prif egwyddorion ymddygiad proffesiynol ar gyfer Cyfieithwyr ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, model diduedd Cyfieithu ar y pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus a gweithio mewn amrywiol sefyllfaoedd a lleoliadau sy'n gysylltiedig ag Iechyd.
  • Bydd y sgiliau sydd eu hangen ar gyfieithydd ar y pryd Gwasanaeth Cyhoeddus yn cael eu dangos a'u hymarfer.
  • Bydd myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo i ymchwilio i derminoleg, datblygu geirfa o dermau arbenigol sy’n ehangu’n barhaus ac ymarfer sgiliau aralleirio.
  • Bydd materion ymarferol sy’n ymwneud â gweithio fel cyfieithydd ar y pryd mewn gwasanaeth cyhoeddus mewn lleoliadau Iechyd yn cael eu hamlinellu a’u trafod.

Gwaith cwrs ac asesu

Mae disgwyl i fyfyrwyr dreulio cyfartaledd o bedair awr o amser astudio ychwanegol am bob awr a dreuliant yn yr ystafell ddosbarth. Yn ystod y cwrs, byddant yn cael eu cynorthwyo i ddefnyddio Dysgu Canolog er mwyn ymgymryd â gwaith darllen ac ymchwil perthnasol, ac i ymarfer tasgau llafar ac ysgrifenedig rhwng gwersi.

Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i derminoleg a fydd yn ymddangos mewn profion ysgrifenedig a gwaith ymarferol yn yr ystafell ddosbarth fel cyfieithiadau golwg a chwarae rôl.

Ar gyfer y cwrs hwn, mae’r asesiadau’n cynnwys profion ysgrifenedig byr drwy gydol y cwrs a gwaith llafar dwyieithog tuag at ddiwedd y cwrs. I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc. Rhaid i chi fod yn bresennol yn o leiaf 50% o'r gwersi.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Tudalennau ac adnoddau sy'n gysylltiedig â’r Diploma Cyfieithu ar y pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (DPSI) a’r cylchgrawn The Linguist, y ddau o wefan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion.

Y Côd Ymddygiad ar gyfer NRPSI (Cofrestr Genedlaethol Cyfieithwyr mewn Gwasanaeth Cyhoeddus).

Bydd adnoddau perthnasol eraill yn cael eu gosod ar Dysgu Canolog yn ystod y cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.