Ewch i’r prif gynnwys

Dosbarth Meistr Dwys Ysgrifennu Creadigol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd Dyddiol o 10:00 i 15:00
Tiwtor Lifelong Learning Tutor Team
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ydy ysgrifennu yn rhywbeth roeddech chi wastad wedi eisiau ei wneud ond rydych chi wedi cael trafferth ymrwymo i gael y cyrchwr hwnnw i symud ar draws y sgrîn?

Neu a ydych chi’n rhywun sy’n potsian gydag ysgrifennu ond sydd angen hwb i’ch hyder i ddechrau mireinio a golygu’ch gwaith? Mae'r Dosbarth Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol yn rhoi'r cyfle i weithio gydag awduron cyhoeddedig ac ymarferwyr arbenigol a fydd yn annog myfyrwyr i beidio â dechrau ysgrifennu yn unig, ond i barhau i ysgrifennu.

Byddwch gyda grŵp o bobl o’r un anian sydd eisiau ymroi i wythnos gyfan o ysgrifennu ac ymdrochi mewn datblygu eu llai.

Byddwch yn rhoi cynnig ar dechnegau newydd, ac yn tyfu'n arbenigwyr ar y rhai mwyaf cyfarwydd. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol; fodd bynnag, rhwydd hynt i sgrifennwyr mwy profiadol ymrestru – bydd darpariaeth ar gyfer bob lefel.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno trwy ddefnyddio dull dwys o 10:00-15:00 ar draws wythnos lawn, a bydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith mewn grwpiau bach a gweithdai. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Bydd amserlen lawn o weithdai yn cael ei darparu yn nes at ddyddiad dechrau'r cwrs, ond mae'n debygol y bydd yn cynnwys dosbarthiadau meistr mewn ffuglen, barddoniaeth, drama, ysgrifennu genre, golygu, cyhoeddi a hunan-fyfyrio.

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio o waith o tua 1,500 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd tiwtoriaid dosbarthiadau meistr yn darparu rhestrau darllen llawn ar gyfer y cwrs cyn i ddosbarthiadau ddechrau.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.