Ewch i’r prif gynnwys

Y Tuduriaid: Ffaith, Ffuglen a Ffantasi

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r modiwl hwn yn gyflwyniad i'r cydadwaith rhwng hanes, chwedloniaeth a ffantasi ym Mhrydain y Tuduriaid.

Mae teyrnasiadau brenhinoedd y Tuduriaid ymhlith y rhai a astudiwyd fwyaf yn hanes Prydain, ond mae adroddiadau am eu rhyfeloedd, brwydrau breninliniol, cynllwynion llys a'u cyflawniadau yn ymestyn ymhell y tu hwnt i hanes yn unig.

Cofnodir gorchestion brenhinoedd fel Harri VIII, Mary, ac Elizabeth I mewn ffynonellau hanesyddol, ond mae eu bywydau go iawn a dychmygol wedi dylanwadu ar y celfyddydau a byd ffilm, yn ogystal ag ar nofelau a ffantasïau. Mae campau cyfoethog ac amrywiol Syr Francis Drake, hud Dr John Dee, anturiaethau Syr Walter Raleigh, bywydau Thomas More a Thomas Cromwell, marwolaethau Marlowe, Mari Frenhines yr Alban ac Anne Boleyn mor anhygoel maent yn cael eu hail-ddehongli mewn diwylliant poblogaidd cyfoes.

Fodd bynnag, mae'r dehongliadau amgen hyn yn seiliedig ar gyd-destun gorffennol hanesyddol. Bydd y modiwl hwn yn archwilio sut mae themâu allweddol ym myd y Tuduriaid fel rôl menywod, defnyddio pŵer, brwydro, a'r agwedd at hud yn llunio ein hagweddau at yr hyn sy'n real, gan fynd i'r afael â sut mae themâu o'r fath yn cael eu hadlewyrchu mewn ffuglen.

O atgofion o Armada Sbaen i boblogrwydd ffeiriau’r Dadeni, mae byd y Tuduriaid dal mewn cof heddiw.

Dysgu ac addysgu

Cynnwys y maes llafur

  1. Richard III, byd y Tuduriaid a threftadaeth gyfoes
  2. Hud ym myd y Tuduriaid
  3. Byd y Tuduriaid ar Lwyfan a Sgrîn
  4. Cymru a byd y Tuduriaid
  5. Gemau, llyfrau a digwyddiadau cosplay - cynwyddoli (commodifying) byd y Tuduriaid
  6. Gwragedd Harri VIII - ffantasi a llên gwerin
  7. Newid barn: Thomas More a Thomas Cromwell; Walter Raleigh a'r fenter Americanaidd
  8. Breninesau a safle menywod
  9. Ffydd y Tylwyth Teg a chrefydd y Tuduriaid

Cyflwynir y modiwl trwy ddeg sesiwn dwy awr o hyd gyda’r nos. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlith 1 awr ac yna trafodaeth ddosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn eich galluogi i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd y sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael trwy Dysgu Canolog.

Gwaith cwrs ac asesu

Caiff y modiwl hwn ei asesu drwy ddau aseiniad byr a fydd yn cynnwys oddeutu 1,500 o eiriau i gyd.

Deunydd darllen awgrymedig

Darllen cefndir a argymhellir

  • Elodie Rousselot (gol.), Exoticizing the Past in Contemporary Neo-historical Fiction (Basingstoke ac Efrog Newydd, 2014).
  • Katie Stevenson a Barbara Gribling (gol), Chivalry and the Medieval Past (Woodbridge, 2016)
  • John Miller, Early Modern Britain,1450‒1750 (Caergrawnt, 2017)
  • John S. Morrill (gol.), The Oxford Illustrated History of Tudor and Stuart Britain (Rhydychen, 1996)
  • Rachel Lee Rubin, Well Met: Renaissance Faires and The American Counterculture (Efrog Newydd, 2012)

Micheal Alexander Medievalism: The Middle Ages in Modern England (New Haven, 2017)

Adnoddau ar-lein

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.