Cyflwyniad i Archaeoleg Prydain
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Tudur Davies | |
Côd y cwrs | ARC24A5553A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Mae Prydain yn llawn archaeoleg a hanes. O filas a thai crwn i gestyll mawreddog brenhinoedd yn yr Oesoedd Canol, mae'r ynysoedd hyn yn gyfoeth o olion archeolegol.
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddarparu amlinelliad rhagarweiniol o archaeoleg Prydain o ddechreuad Prydain Rufeinig, gan fynd ymlaen i archwilio'r Eingl-Sacsoniaid, y Celtiaid, y Llychlynwyr a’r Normaniaid, cyn ystyried archaeoleg pŵer canoloesol, hunaniaeth, economi a marwolaeth i lawr hyd at ddiwedd y cyfnod canoloesol.
Byddwn yn archwilio ystod eang o ddiwylliant materol sydd wedi goroesi a safleoedd archeolegol o bob rhan o Brydain. Sut mae archeolegwyr wedi mynd ati i gloddio a dehongli'r safleoedd hyn, eu lle yn y dirwedd, ac arwyddocâd yr hyn a ddarganfuwyd?
Dysgu ac addysgu
Bydd y modiwl yn cael ei addysgu drwy ddeg sesiwn dwy awr ar-lein, gan ymgorffori darlithoedd, seminarau a gweithdai.
Bydd y sesiynau hyn yn digwydd ar ffurf darlith awr o hyd gyda thrafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl yn dilyn hynny, bob tro.
Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac i gyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.
Maes Llafur:
- Cyflwyniad: Archaeoleg ym Mhrydain
- Rhufeineiddio Prydain?
- Bywyd a Marwolaeth yn y Brydain Rufeinig
- Diwedd Ymerodraeth: Prydain wedi’r Rhufeiniaid
- Prydain Eingl-Sacsonaidd
- Celtiaid yn y Gorllewin?
- Prydain y Llychlynwyr: Goresgynwyr Llychlynnaidd?
- Uno a Choncwest
- Pŵer a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain
- Economi a Marwolaeth: Diwedd yr Oesoedd Canol
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:
- Cyflwyniad llafar 5 munud
- Disgrifiad o'r safle neu bortffolio gwaith o tua 1000 o eiriau
Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.
Deunydd darllen awgrymedig
- Arnold, C.J. 2005. An Archaeology of the Early Anglo-Saxon Kingdoms. Llundain ac Efrog Newydd: Routledge
- Hunter, J. a Ralston, I (goln.). 2002. The Archaeology of Britain: An Introduction from the Upper Palaeolithic to the Industrial Revolution. London: Routledge
- Rogers, A. 2015. The Archaeology of Roman Britain: Biography and Identity. London: Routledge
- Tarlow, S. and West, S. (goln). 1999. The Familiar Past? Archaeologies of Later Historical Britain. London: Routledge
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.