Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio Crefydd: Y Gorffennol a’r Presennol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Trwy gyfres o astudiaethau achos, mae'r cwrs hwn yn cyflwyno astudiaeth academaidd o grefydd, gan ystyried y pwnc o amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys dulliau hanesyddol, anthropolegol, testunol, a seicolegol.

Mae’r themâu allweddol i’w dadansoddi yn cynnwys:

  • hunaniaeth grefyddol
  • seciwlariaeth
  • testunau cysegredig
  • cyfraith grefyddol
  • awdurdod crefyddol
  • lleoedd sanctaidd.

Bydd cyfleoedd i ddarllen ysgrifau crefyddol hynafol, astudio ethnograffeg a ffurfio damcaniaeth feirniadol, gyda'r nod o’ch arfogi â'r sgiliau sy’n angenrheidiol i gael y budd mwyaf o astudio crefyddau hynafol a modern.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudiaethau crefyddol a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach.

Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Archwilio’r Gorffennol, a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr. Mae hefyd yn gweithredu fel cwrs annibynnol sy’n cynnig rhai astudiaethau achos cymhellol. Os oes gennych ddiddordeb mewn sut mae crefydd wedi dylanwadu ar gymdeithasau’r gorffennol a'r presennol, dyma’r cwrs perffaith i chi.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys naw uned. Mae pob uned yn cynnwys sesiwn wyneb yn wyneb dwy awr. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau a dadleuon dosbarth, gwaith pâr a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd.

Bydd pwyslais cryf hefyd ar ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan Rith-Amgylchedd Dysgu’r brifysgol, sef Dysgu Canolog.

Gwaith cwrs ac asesu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys tri darn byr o waith asesedig a ddylai, gyda’i gilydd, ddod i oddeutu 1500 o eiriau. Mae'r darnau hyn o waith wedi cael eu cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau y mae arnoch eu hangen i astudio’n llwyddiannus.

Bydd y darn cyntaf o waith yn eich galluogi i ymarfer rhoi eich syniadau mewn geiriau ar ffurf academaidd. Bydd yr ail yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi, a bydd y trydydd yn rhoi cyfle i chi ysgrifennu traethawd byr. Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer pob un o’r tri aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Michael Argyle, Psychology and Religion: An Introduction (Abingdon, 2000)
  • Fiona Bowie, The Anthropology of Religion: An Introduction (Rhydychen, 2000; ail argraffiad (fe’i hargymhellir), 2006)
  • Dominic Corrywright a Peggy Morgan, Get Set for Religious Studies (Caeredin, 2006)
  • John Hinnells (gol.), The Routledge Companion to the Study of Religion (Abingdon, 2010)
  • Hilary Rodrigues a John S. Harding, Introduction to the Study of Religion (Rhydychen, 2009)
  • Ninian Smart (gol.), Approaches to the Study of Religion (Llundain, 1999)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.