Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Ffeithiol Creadigol

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Tutor to be confirmed
Côd y cwrs CRW23A5537A
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Weithiau, cyfeirir at ysgrifennu ffeithiol creadigol fel y “pedwerydd genre”, ochr yn ochr â barddoniaeth, drama a ffuglen.

Mae’n ffurf lle mae dweud y gwir a defnyddio iaith lenyddol cyn bwysiced â’i gilydd.

Mae ysgrifennu ffeithiol creadigol yn cynnwys sawl gwahanol fath o ysgrifennu, gan gynnwys cofiant, dyddiadur, llên teithio, llên bwyd, newyddiaduraeth lenyddol, hanes naratif a thraethawd personol.

Yn fwy diweddar, mae llên ffeithiol ddamcaniaethol a'r traethawd gweledol wedi dechrau cael eu cynnwys o dan y term ymbarél hwn.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn archwilio ystod eang o arddulliau a ffurfiau ym maes ysgrifennu ffeithiol creadigol, gan ddod o hyd i lais sy'n gweddu i'r naratif rydych am ei adrodd.

Mae cywirdeb ffeithiol yn hollbwysig, ond mae’r arddull adrodd yn grefftus.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth, a gwaith grŵp bach.

Maes Llafur

Mae’r pynciau’n debygol o gynnwys:

  • Cofiant, bywgraffiad, a hunangofiant
  • Llên teithio
  • Llên bwyd
  • Traethodau Personol
  • Llên ffeithiol ddamcaniaethol
  • Cyd-destunau digidol

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd yn rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.

Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’r dysgu.

Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.

Byddwch yn cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eich proses eich hun. Bydd y portffolio’n cynnwys tua 1500-2000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch yn cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen ymlaen llaw.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.