Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Creadigol: Dechrau Ysgrifennu

Hyd 10 o gyfarfodydd wythnosol
Tiwtor Rachel Smith
Côd y cwrs CRW23A5363C
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr
Hyd 10 o gyfarfodydd wythnosol
Tiwtor Rachel Smith
Côd y cwrs CRW23A5363B
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

A oeddech chi wastad eisiau ysgrifennu ond heb wybod ble i ddechrau?

A yw ysgrifennu'n codi ychydig o arswyd arnoch, fel llamu i'r tywyllwch? Hoffech chi allu dechrau ysgrifennu'r nofel honno, y cofiant, neu ddarn byrrach megis cerdd neu ficro-ffuglen?

Bydd y cwrs hwn yn gyflwyniad i rai o'r sgiliau pwysicaf ym meddiant ysgrifennwr creadigol: dychymyg, hyder a dyfalbarhad. Dros ddeg wythnos bydd cyfle i chi ysgrifennu a chymryd rhan mewn gweithdy am amrywiaeth o genres ffuglen a ffeithiol, yn ogystal â barddoniaeth a rhyddiaith.

Byddwch yn datblygu eich sgiliau ysgrifennu eich hunan er mwyn cynhyrchu straeon byrion, barddoniaeth neu ddarnau ysgrifenedig estynedig ar gyfer eich portffolio ysgrifennu creadigol. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi cymryd y cam cyntaf a dechrau ysgrifennu!

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn sy’n para dwy awr yr un, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach a gweithdai.

Gwaith cwrs ac asesu

I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio ysgrifennu gyda thua 1,500 o eiriau ynddo, a fydd yn cynnwys elfen fyfyriol.

Deunydd darllen awgrymedig

Rhoddir rhestr lawn i fyfyrwyr ar ddechrau’r cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.