Y Byd Sinema
Hyd | 9 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Suzie Good | |
Côd y cwrs | MED24A5310A | |
Ffi | £264 | |
Ffi ratach | £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Bydd y cwrs hwn yn ystyried sut mae ffilm wedi dylanwadu ar wybodaeth mewn gwahanol gyd-destunau a thrafodaethau, ei gallu i gynrychioli, a hefyd sut mae gofodau newidiol wedi dylanwadu ar brofiadau sinema cynulleidfaoedd.
Dewch i archwilio byd cyfoethog sinema, gan ystyried materion technolegol, cysyniadol, damcaniaethol ac esthetig allweddol er mwyn magu gwell dealltwriaeth o'r ffilmiau eu hunain, y cwmnïau sy'n eu cynhyrchu, yr arian sy'n mynd atynt, a'r cynulleidfaoedd sy'n eu caru, ac ambell waith, yn eu casáu.
Byddwn yn archwilio rolau arloeswyr allweddol technolegau sinematig ac yn trafod pynciau fel:
- cydnabod genre
- is-destunau
- "celfyddyd ynteu fasnach"
- demograffeg y gynulleidfa
- "dweud y gwir”.
Wrth wneud hynny, bydd y modiwl hwn yn bwrw golwg ar agweddau damcaniaethol, diwydiannol, economaidd a diwylliannol yn amrywio o Hollywood i sinema annibynnol, o ffilmiau mud i ddangosiadau 3D, o ffilmiau dogfen brawychus i angenfilod ffilm rhyfeddol.
Mae’r cwrs hwn yn rhan o'r Llwybr i’r Cyfryngau ond mae croeso i fyfyrwyr sydd am ei astudio fel opsiwn annibynnol ymrestru hefyd.
Mae’r modiwl yn rhan o’r Llwybr at radd yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant ac fel opsiwn annibynnol.
Dysgu ac addysgu
Addysgir y modiwl hwn dros 9 sesiwn dwy awr o hyd, wedi’u cyflwyno’n wythnosol.
Cyflwynir y dosbarthiadau drwy amrywiaeth o ddarlithoedd, gweithdai, ymarferion trafod a gwaith grŵp. Bydd myfyrwyr yn derbyn taflenni a rhestr ddarllen, sy’n caniatáu iddynt ddarllen am bynciau perthnasol, ac yn eu galluogi hefyd i ddatblygu eu diddordebau eu hunain a nodi’r cwestiynau allweddol y bydd gofyn iddynt eu hateb yn eu hasesiadau.
Mae’r meysydd astudio’n cynnwys:
- O Wylio i Ddarllen: Dadansoddiad Testunol o Ffilmiau
- Trafod Cysondeb a Gwahaniaeth: Genre a Sinema
- Mynd ar Gyfeiliorn: Strwythurau Naratifau a Sinema
- O Ril i Real Rhan I: Ffilm ac Estheteg
- O Ril i Real Rhan II: Ffilmiau Dogfennol
- Popgorn ac Elw: Diwydiannau Ffilm
- Mynd â'r Sinema Adref: Pecynnu, Marchnata ac Ail-fformatio Ffilmiau
- Ystafell gyda Gwyliwr: Cynulleidfaoedd Sinema
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd myfyrwyr yn cwblhau dadansoddiad ffilm byr o tua 500 o eiriau, a thraethawd byr o 1000 o eiriau i ddilyn.
Deunydd darllen awgrymedig
- Paul Martin Lester, Visual Communication: Images With Messages (Wadsworth: 2000)
- Theo van Leeuwen and Carey Jewitt, eds. Handbook of Visual Analysis (Sage: 2006)
- James Monaco, How To Read a Film: The Art, Technology, Language, History and Theory of Film and Media (Oxford Press: 2009)
- Kristin Thompson and David Bordwell, Film Art: An Introduction (McGraw-Hill: 2004)
- Michele Pierson, Special Effects: Still in Search of Wonder (Columbia University Press: 2002)
- Richard Maltby, Hollywood Cinema (Blackwell Publishing: 2003)
- Simon Popple & Joe Kember, Early Cinema: From Factory Gate to Dream Factory, (Wallflower Press: 2004)
- Jim Collins, Hilary Radner, and Ava Preacher Collins (eds), Film Theory Goes to the Movies, (Routledge: 1993)
- Timothy Corrigan, A Short Guide to Writing About Film,(Pearson: 2012).
- James Bennett and Tom Brown (eds), Film and Television After DVD. (Routledge: 2008)
- Barbara Klinger, Beyond the Multiplex. Cinema, New Technologies, and the Home. (University of California Press: 2006)
- Jonathan Gray, Show Sold Separately. Promos, Spoilers, and Other Media Paratexts. (New York University Press: 2010).
- Thomas Austin, Hollywood, Hype and Audiences. Selling and Watching Popular Film in the 1990s. (Manchester University Press: 2002).
- Matt Hills, Fan Cultures, (Routledge: 2002)
- Rick Altman, Film/Genre. (BFI: 1999)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.