Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio Crefyddau'r Byd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r modiwl hwn yn archwilio crefyddau o bob cwr o'r byd.

Byddwch yn caffael y sgiliau rydych eu hangen ar gyfer astudio crefyddau mewn modd academaidd.

Bob wythnos bydd ffydd newydd yn cael ei chyflwyno a bydd y ffydd dan sylw’n fframio cwestiynau ehangach yn ymwneud â thestunau cysegredig, arferion crefyddol, awdurdod crefyddol, a hunaniaeth. Rhoddir pwyslais ar yr amrywiaeth o fewn traddodiadau crefyddol, a thelir sylw i sut mae ffactorau hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol yn dylanwadu ar y ffordd y mae crefydd yn cael ei hymarfer ledled y byd.

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau astudio crefydd ar y cwrs, gan ddechrau gydag archwiliad hanesyddol yn bennaf o Gristnogaeth gynnar, a symud ymlaen i safbwyntiau anthropolegol, cymdeithasegol a seicolegol i archwilio crefyddau megis Islam a Jainiaeth.

Drwy gydol y modiwl, bydd y cwrs yn ystyried y prif faterion y mae crefyddau yn eu hwynebu yn yr oes fodern, megis ymfudo, technoleg, seciwlareiddio, ac ymddangosiad 'crefyddau newydd'.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu ar-lein, trwy gyfrwng darlithoedd wedi'u recordio, a seminarau a gweithdai ar-lein fydd yn cynnwys trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl.

Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  • Beth yw Astudiaethau Crefyddol?
  • Ymarfer ac Astudio Crefydd
  • Cyflwyniad i Draddodiadau Crefyddol Groeg a Rhufain
  • Cyflwyniad i Gristnogaeth Gynnar
  • Cyflwyniad i Islam
  • Cyflwyniad i Fwdhaeth
  • Cyflwyniad i Jainiaeth
  • Cyflwyniad i Hindŵaeth
  • Mudiadau Crefyddol Newydd a Chrefydd Gyfoes

Gwaith cwrs ac asesu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys tri darn byr o waith asesedig a ddylai, gyda’i gilydd, ddod i oddeutu 1500 o eiriau.

Mae'r darnau hyn o waith wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau rydych eu hangen i astudio crefyddau’n llwyddiannus.

Bydd y cyntaf o blith y rhain yn gyfle i chi ymarfer rhoi eich syniadau ar ffurf geiriau, mewn modd academaidd.

Bydd yr ail yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi ffynonellau, a bydd y trydydd yn gyfle i chi ysgrifennu traethawd byr. Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer pob un o’r tri thraethawd.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Bowie, F. The Anthropology of Religion: An Introduction (Rhydychen, 2000; ail argraffiad (argymhellir hwn): 2006)
  • Corrywright, D. a Morgan, P. Get set for Religious Studies (Caeredin, 2006)
  • Hilary Rodrigues a John S. Harding, Introduction to the Study of Religion (Rhydychen, 2009)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.