Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth a Chymdeithas Hynafol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Beth oedd yn ei olygu i fod yn Roegaidd neu'n Rufeinig yn y byd hynafol? Beth mae astudio testunau hynafol yn ei ddatgelu am agweddau at ryfel, cariad, teulu a rhywedd?

Gan astudio ystod o destunau gwahanol a'r lleisiau sydd ynddynt, o farddoniaeth epig i gomedi, a chan gynnwys gweithiau gan Homer, Sophocles, Ovid, a Virgil, byddwn yn archwilio cymdeithasau fu’n creu straeon sy'n parhau i swyno cynulleidfaoedd heddiw.

Byddwn yn ystyried meysydd ymchwil newydd a chyffrous megis agweddau at gyfunrywioldeb a hil, yr hyn y mae’r meysydd ymchwil hyn yn ei ddweud wrthym am bobl y byd hynafol, ac yn archwilio sut mae haneswyr yn gallu clywed lleisiau'r rhai oedd wedi’u hymyleiddio mewn gweithiau oedd yn fwy aml na heb wedi’u cynhyrchu gan ddynion elitaidd.

Byddwn yn ymchwilio i ddylanwad parhaol llenyddiaeth hynafol yn y byd modern, yn enwedig fel y'i defnyddiwyd gan Sigmund Freud ac yn ffilm Spike Lee, Chi-raq (2015).

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu ar-lein, trwy ddeg sesiwn yn cynnwys darlithoedd wedi'u recordio a seminarau a gweithdai ar-lein fydd yn cynnwys trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl.

Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  • Cyflwyniad: Cymdeithas yng Ngwlad Groeg a Rhufain Hynafol
  • Dechreuadau Arwrol: Odyssey Homer
  • Tadau Trasig: Sophocles' Oedipus Rex [Three Theban Plays]
  • Merched Trasig: Oedipus yn Colonus ac Antigone gan Sophocles [Parhad â’r Tair Drama Thebaidd]
  • Meibion Trasig: Orestes gan Euripides
  • Canfod Lleisiau Benywaidd: Sappho ac Aspasia
  • Comedi: Lysistrata gan Aristophanes
  • Cariad a Chwant: Metamorphoses ac Ars Amatoria gan Ovid
  • Dylanwad Homer: Aeneid gan Virgil

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • dadansoddiad o ffynhonnell fer
  • blog 1000 o eiriau

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl ynghylch y cryfderau a’r meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Fagles, R. (trans.), Sophocles. The Three Theban Plays: Antigone, Oedipus the King, Oedipus at Colonus (New York, 1984).
  • Homer, The Odyssey (Multiple versions and translations available).
  • Melville, A.D. (trans.), Ovid: Metamorphoses (Oxford, 1986).
  • Peck, J. and Nisetich, F. (trans.), Euripides: Orestes (Oxford, 1995).
  • Plant, I.M. (ed.), Women Writers of Ancient Greece and Rome: An Anthology (London, 2004).
  • Sommerstein, A.H. (trans.), Aristophanes: Lysistrata and other Plays (London and New York, 1973).
  • Virgil, The Aeneid (Multiple Versions and translations available).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.