Ewch i’r prif gynnwys

1989: Blwyddyn arwyddocaol yn Ewrop

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno chi i ddatblygiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol yng nghanol a dwyrain Ewrop ar ddiwedd yr 1980au.

Modiwl 10 credyd yw hwn ar y Llwybr at radd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth. Mae ar gael i bawb fel cwrs ar ei ben ei hun.

Mae'n fodiwl 20 credyd ar y Llwybr at radd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae hefyd ar agor i bawb fel cwrs annibynnol.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau grwpiau bach.

Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Adnabod a gwerthuso’r datblygiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol wnaeth arwain at ddiwedd comiwnyddiaeth yn CEE
  • Adnabod a gwerthuso prif ddeilliannau’r digwyddiadau rhwng 1989-1991 ar gyfer Ewrop gyfoes
  • Dadansoddi cryfderau a gwendidau esboniadau cystadleuol dros ddiwedd comiwnyddiaeth yn CEE
  • Gwerthuso’n gritigol y rolau gwahanol yr oedd cydmeithasau dinesig gwahanol ac elitau gwleidyddol yn eu chwarae o ran cyflawni prosesau pontio mewn gwledydd CEE

Asesu’n gritigol etifeddiaeth profiadau pontio gwahanol o ran materion Ewropeaidd cyfoes

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd yr asesiad ar gyfer y modiwl yn cynnwys traethawd hir (50%) a dadansoddiad dogfen (50%).

Deunydd darllen awgrymedig

  • Joseph Rothschild a Judy Batt: Developments in Central and East European Politics (Llyfrau Gwasg Prifysgol Duke, 2013)
  • Goodbye Lenin? DVD

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.