Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg Uwchraddol Is – Cam E

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich Ffrangeg llafar, clywedol ac ysgrifenedig ymhellach, er mwyn i chi allu mynegi eich hun yn hyderus wrth drafod y pynciau mwyaf cyffredinol, heb i chi orfod chwilio’n amlwg am eiriau, gan ddefnyddio rhai ffurfiau cymhleth ar frawddegau i wneud hynny.

Byddwch yn atgyfnerthu ac yn ehangu eich dealltwriaeth o strwythur yr iaith a diwylliant y gwledydd lle siaredir Ffrangeg. Cwmpasir y themâu canlynol: twristiaeth, gastronomeg, iechyd, menywod yn y gymdeithas Ffrengig, yr Undeb Ewropeaidd, a threfniant gwleidyddol Ffrainc.

Rydych wedi cwblhau cwrs Ffrangeg Safon Uwch yn ddiweddar, ac rydych yn barod i fynd gam ymhellach (astudio’n rhan-amser am bedair blynedd neu gymhwyster Safon Uwch). Wrth gwrs, byddai cwblhau Ffrangeg Ganolradd Uwch Cam D yn ddiweddar hefyd wedi bod yn addas.

Gall astudio’r cwrs hwn gyfrannu at y llwybr i radd mewn cyfieithu a’r llwybr i radd mewn ieithoedd modern.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ogystal â sesiynau wythnosol, rydym yn argymell eich bod yn treulio peth amser rhwng y gwersi, naill ai’n adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth a/neu’n ceisio darllen papurau newydd neu wrando ar y radio er mwyn meithrin eich dealltwriaeth o Ffrangeg ddilys.

Deunydd darllen awgrymedig

Upgrade your French, M. Jubb, Hodder Arnold, 2002, ISBN-10: 0340763450.

Hoffem pe byddech yn ceisio darllen papurau newydd a chylchgronau yn rheolaidd; mae’r cyfnodolion canlynol, a fyddai’n addas iawn ar eich cyfer, yn cael eu dosbarthu i’r llyfrgell: Ca m'interesse, Science et Vie, L'Express, Marianne, Le Monde Dossiers et Documents, Le Francais dans le Monde.

Wrth gwrs, gallwch gyrchu cyfnodolion Ffrangeg, yn rhad ac am ddim, trwy eu gwefannau.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.