Y Meddwl Ymchwilgar: Cyflwyniad i Athroniaeth
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae athroniaeth yn ein dysgu sut i gwestiynu’r cyfarwydd, herio’r confensiynol, a deall y byd o'n cwmpas yn well.
Gan ddefnyddio ymagwedd thematig, bydd y cwrs hwn yn archwilio rhai o'r prif faterion mewn athroniaeth: celf a chymdeithas; gwybodaeth ac amheuaeth; canfyddiad; realaeth a gwrthrychedd gwyddonol; iaith a meddwl; gwerthoedd a chyfrifoldebau; bodolaeth a Duw.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am athroniaeth.
Dysgu ac addysgu
Addysgir y modiwl hwn dros ddeg sesiwn dwy awr o hyd, wedi’u cyflwyno’n wythnosol. Bydd cymysgedd o ddarlithoedd a seminarau, a bydd yr union gyfran yn cael ei phennu yn ôl anghenion y myfyrwyr sy’n cofrestru.
Efallai y bydd yr elfen seminar yn cynnwys dadl, trafodaeth, gweithgareddau grŵp, cyflwyniadau a darlleniadau. Bydd deunydd darllen ychwanegol yn cael ei argymell a rhoddir rhestr ddarllen. Rhoddir taflenni cwrs fel y bo'n briodol.
Bydd y seminarau yn annog datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r syniadau a chysyniadau a drafodwyd yn ystod y cwrs. Byddwn ni’n ceisio helpu pawb i feithrin medrau deallusol trwy drafodaethau yn y dosbarth, darllen a gwaith cwrs.
Bydd amrywiaeth o faterion athronyddol yn cael eu cwmpasu, wedi’u dewis o’r pynciau canlynol (efallai bydd pynciau newydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr hon, a/neu eu tynnu ohoni, gan ddibynnu ar gyd-destun y cyflwyniad mewn unrhyw flwyddyn):
- Cyflwyno Athroniaeth
- Dadleuon dros Fodolaeth Duw
- Ewyllys Rhydd vs Penderfyniaeth
- Dulliau Rhesymu Moesol
- Athroniaeth Wleidyddol
- Athroniaeth Celf
- Natur y Meddwl
- Problem Canfyddiad
- Athroniaeth Iaith
- Realaeth Gwyddonol
Dysgu ac addysgu
Traethodau neu orchwylion ysgrifenedig cyfatebol eraill hyd at 1500 o eiriau sy'n dangos eich bod yn deall elfennau craidd deunydd y cwrs.
Yr elfen bwysicaf o’r asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu, sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella.
Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Gwaith cwrs ac asesu
Traethodau neu aseiniadau ysgrifenedig cyfatebol eraill hyd at 1500 o eiriau sy'n dangos eich bod yn deall elfennau craidd deunydd y cwrs. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yn ein barn ni yw y dylai gryfhau eich dysgu.
Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur. I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.
Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.
Deunydd darllen awgrymedig
Y prif testun gosod ar gyfer y modiwl fydd:
- Warburton, Nigel. Philosophy: the basics (pumed argraffiad; Routledge, 2013)
Efallai y bydd yr adnoddau canlynol hefyd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr:
- Honderich, Ted, The Oxford Companion to Philosophy (Oxford University Press, 2005)
- Norris, Christopher. Philosophy of Language and the Challenge to Scientific Realism (Routledge, 2004)
- Russell, Bertrand, A History of Western Philosophy, new edn (Routledge, 2004)
- Singer, Peter. Applied Ethics (Oxford University Press, 1986)
- Swinburne, Richard. The Existence of God (Ail Argraffiad; Oxford University Press, 2004)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.