Ewch i’r prif gynnwys

Portiwgaleg i Ddechreuwyr – Cam A

Hyd 20 o gyfarfodydd wythnosol
Tiwtor Larissa Berquo
Côd y cwrs POR24A2212A
Ffi £383
Ffi ratach £306 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Adeilad John Percival
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Ymrestrwch nawr

Nod y cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr llwyr yw rhoi wybodaeth sylfaenol o sgiliau cyfathrebu mewn Portiwgaleg i chi.

Mae’r Tiwtor yn Frasilaidd, felly bydd pwyslais cryf ar faterion diwylliannol Brasil. Dyma'r pynciau fydd o dan sylw: cyflwyniadau, cenedligrwydd, galwedigaethau, gwledydd a dinasoedd, yn y cartref, lliwiau.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n ddechreuwyr llwyr o ran Portiwgaleg, ac sydd am allu cynnal sgwrs sylfaenol iawn.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Textbook: Portugues sem Fronteiras

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.