Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg Sgyrsiol Canolradd (cwrs ar-lein)

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud 3 blynedd o astudiaethau rhan-amser (neu bedair blynedd, ond yn teimlo bod eich sgiliau siarad yn wan o hyd) ac rydych yn gallu cyfathrebu wrth wneud tasgau arferol lle mae angen cyfnewid gwybodaeth ar faterion cyfarwydd a chyffredin yn uniongyrchol.

Bydd y cwrs dwys hwn yn eich galluogi i ymarfer ac atgyfnerthu eich sgiliau iaith a siarad Ffrangeg yn hyderus.

Cewch y cyfle i ymarfer mewn grwpiau bach a gwneud ymarferion chwarae rôl o sefyllfaoedd y byddwch yn dod ar eu traws mewn gwledydd lle siaredir Ffrangeg.

Bydd y cwrs yn cynnwys adolygiad o’r gwahanol amserau o’r ferf fel gorffennol, perffaith, amherffaith a gorberffaith, ond ymarfer y gwahanol sgiliau yw prif nod y cwrs.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Pynciau

  • hamdden
  • teithio
  • chwaraeon
  • gwyliau
  • amgylchedd.

Rhagor o wybodaeth

  • cwrs 18 awr
  • dim mwy na 14 o fyfyrwyr
  • rhaid ymrestru ymlaen llaw
  • darperir deunyddiau’r cwrs yn y sesiwn gyntaf
  • defnydd helaeth o’n labordai iaith digidol.

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.

Gwaith cwrs ac asesu

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.